Achub ein Stryd Fawr – Llyfrgell Llandudno a’r Ganolfan Groeso mewn perygl
Wedi ei chreu gan: Gini Rivers
Dyddiad cau: 21/04/2025. Mi fydd y ddeiseb yn cau mewn 18 diwrnod.
Targed llofnodion: 100
Llofnodion a gafwyd hyd yn hyn: 291
Llofnodion sydd eu hangen: 0
Disgrifiad
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau symud y Llyfrgell a’r Ganolfan Groeso o Mostyn Street i Venue Cymru.
Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn dweud bod eu cadw lle maent ar hyn o bryd – yn denu dros 200,000 o ymweliadau y flwyddyn – yn hanfodol i gynnal Mostyn Street fel canol tref prysur, bywiog a hyfyw.
Mae’n benderfyniad gwael a naïf ar y gorau i awgrymu na fyddai cael gwared ag amwynderau’r stryd fawr yn fwriadol yn cael effaith sylweddol ar nifer yr ymwelwyr ac ar fanwerthwyr. Heb sôn am y gefnogaeth gymunedol a roddir gan y Llyfrgell a’r Ganolfan Groeso.
Mynnwn fod y Cyngor yn ailystyried y symudiad hwn; a chynnal a chyhoeddi astudiaeth broffesiynol o effaith y symud arfaethedig ar yr economi.