Cyllideb a Threth y Cyngor 2025/2026

Cyllideb a Threth y Cyngor 2025/2026
Heddiw [27/02/25] gosododd Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Dreth y Cyngor a’r Gyllideb ar gyfer 2025/26.
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, yr adroddiad i gyfarfod y Cyngor.
Meddai, “Mae’r adroddiad wedi’i ddiwygio i gydnabod y cyllid ychwanegol, sy’n fach ond sydd i’w groesawu serch hynny, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu setliad cyllideb terfynol ar 20 Chwefror.
“Mae’r adroddiad yn nodi’n glir yr heriau ariannol a wynebwn, yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yn y galw am wasanaethau statudol.
“Unwaith eto rydym yn wynebu dewisiadau annymunol, cydbwyso toriadau pellach i wasanaethau sydd eisoes wedi lleihau a chynyddu’r baich treth y Cyngor ymhellach ar ein preswylwyr er mwyn bodloni ein rhwymedigaeth statudol i osod cyllideb gytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/2026.”
Gwyliwch y drafodaeth yn: Y Cyngor (27.2.25) - YouTube
Bu i’r Cyngor gymeradwyo’r Gyllideb a gosod Treth Y Cyngor ar gyfer 2025/26.
Mae hyn yn golygu cynnydd o 8.27% i Dreth y Cyngor er mwyn ariannu gwasanaethau’r Cyngor, a chynnydd o 0.68% i ariannu ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a fyddai’n gynnydd cyfunol o 8.95%.
Yn seiliedig ar Dreth y Cyngor Band D, mae hynny’n gynnydd o £143.35 (£2.75 yr wythnos) ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a chynnydd o £11.79 (£0.23 yr wythnos) ar gyfer ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae hynny’n gynnydd cyfunol o £155.14 (£2.98 yr wythnos), sy’n codi Treth y Cyngor Band D i £1,888.51.
Bydd lefel wirioneddol Treth y Cyngor y codir tâl amdano ar gyfer eiddo unigol yn dibynnu ar y band prisio ar gyfer yr eiddo, y praesept ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a'r Cyngor Tref / Cymuned ble mae'r eiddo.
Gwybodaeth bellach:
Mae gan Gonwy oddeutu 55,800 o aneddiadau sy’n talu Treth y Cyngor ac mae oddeutu 21,400 yn cael gostyngiad person sengl.
Mae yna oddeutu 10,500 o aelwydydd yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor (a bydd rhai yn derbyn gostyngiad person sengl hefyd).
Dolen i’r adroddiad llawn a’r atodiadau: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cyngor Dydd Iau 27 Chwefror 2025, 10.00 am
Wedi ei bostio ar 27/02/2025