Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy County recycles a million coffee pods

Sir Conwy yn ailgylchu miliwn o bodiau coffi


Summary (optional)
start content

Sir Conwy yn ailgylchu miliwn o bodiau coffi

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dathlu mwy na miliwn o bodiau coffi wedi eu hailgylchu yn y sir.  Drwy weithio gydag elusen leol Crest ac arbenigwyr ailgylchu podiau Podback, mae casgliad ailgylchu podiau coffi pob pythefnos y Cyngor wedi arbed 16.4 tunnell o losgi gwastraff.

Roedd y gwasanaeth sir gyfan y cyntaf o’i fath i lansio yng Nghymru pan wnaeth casgliadau ddechrau ym mis Medi 2022. Mae dros 2900 o aelwydydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac maent yn ailgylchu eu podiau coffi plastig ac alwminiwm gartref. Mae preswylwyr yn derbyn bagiau ailgylchu Podback i’w llenwi, ac yna yn eu rhoi allan ar eu diwrnod casglu tecstilau ac offer trydan ymyl palmant pob pythefnos i Crest eu casglu, neu drefnu casgliad gyda Crest os ydynt yn byw mewn ardal wledig.

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd: “Rydym yn falch fod preswylwyr wedi ailgylchu dros 1 miliwn o bodiau coffi yn barod. Ni oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno gwasanaeth ailgylchu podiau coffi Podback ac mae’r garreg filltir hon yn dangos faint o bobl sy’n gwerthfawrogi’r gwasanaeth hwn.  Mae Podback yn ariannu’r gwasanaeth, felly mae’n niwtral o ran cost ac yn ffordd wych i ni wella ein gwasanaeth i breswylwyr.”

Mae Podback yn wasanaeth ailgylchu cenedlaethol a grëwyd gan enwau mwyaf adnabyddus y byd podiau coffi, sef Nespresso, NESCAFÉ Dolce Gusto a Tassimo a chefnogir gan fwy na 25 o frandiau pod coffi. Ar ôl eu casglu, mae’r podiau coffi yn cael eu hanfon i safle ailgylchu arbenigol o fewn y DU. Bydd y plastig a’r alwminiwm yn cael eu trawsnewid yn gynhyrchion newydd, yn cynnwys deunyddiau pecynnu, cydrannau ceir a chynnyrch adeiladu, tra bydd y gwaddodion coffi yn cael eu trin drwy’r broses treulio anaerobig i greu deunydd gwella pridd ac ynni adnewyddadwy.

Mae ailgylchu yn defnyddio llai o ynni na  gweithgynhyrchu o ddeunyddiau crai, gan arbed adnoddau naturiol a lleihau allyriadau carbon a gynhyrchwyd drwy daflu eitemau i ffwrdd i safleoedd tirlenwi a hyd yn oed eu llosgi.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Podback, Rick Hindley: “Mae ailgylchu un miliwn o bodiau yn garreg filltir arbennig i Gonwy ei chyrraedd ac rydym yn falch fod y gwasanaeth Podback wedi derbyn ymateb mor dda ac yn cael ei gefnogi gan breswylwyr ar draws y Sir.   Gyda dros 80% o frandiau pod coffi yn cael eu gwerthu yn y DU bellach wedi eu cynnwys yn y gwasanaeth Podback, rydym yn gobeithio y bydd mwy o aelwydydd yn ymrwymo i ailgylchu eu podiau drwy’r gwasanaeth ymyl palmant.

 

Mae podiau alwminiwm yn cael eu hailbrosesu yn Swydd Gaer.  Mae podiau plastig yn cael eu hailbrosesu yn Nwyrain Swydd Efrog.

Mae’r gwaddodion coffi yn cael eu prosesu gan gyfleusterau treulio anaerobig lleol sy’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy (bio-nwy) a deunydd gwella pridd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.podback.org a https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Recycling-and-Waste/Coffee-Pod-Recycling.aspx

Podback yw’r gwasanaeth ailgylchu podiau coffi cenedlaethol, sy’n cynnig ffyrdd syml a chyfleus i bobl sy’n mwynhau ansawdd a blas podiau coffi i’w hailgylchu.  

Mae Podback yn sefydliad nid er elw a sefydlwyd gan yr enwau mwyaf yn y systemau pod coffi - Nespressso, NESCAFE Dolce Gusto a Tassimo - a chefnogir gan dros 25 o frandiau pod coffi, gan gynnwys prif fanwerthwyr a rhostwyr annibynnol.   Mae brandiau aelodau Podback yn cynrychioli dros 80% o’r farchnad pod coffi yn y DU.  

 

Wedi ei bostio ar 30/04/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content