Tîm Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy yn Bocsio

Sesiwn Ymarfer Bocsio
Roedd Tîm Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy’n fach iawn o’r nifer a ddaeth i’w sesiwn Ymarfer Bocsio gyntaf i bobl ifanc yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Hapus yn Llandudno yn ddiweddar.
Mae’r Tîm yn gweithio mewn partneriaeth â MBox, sef sesiwn ffitrwydd bocsio digyffwrdd, sydd hefyd yn digwydd yn Nhŷ Hapus. Daeth 24 o bobl ifanc i’r dosbarth, a gynhaliwyd ddydd Gwener, 7 Chwefror. Ar ôl y dosbarth, cawsant wedyn gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb ieuenctid i fyny’r grisiau yn Nhŷ Hapus.
Meddai Tommy Lyness, Gweithiwr Ieuenctid Ardal: “Bydd y dosbarth yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu ffitrwydd, gwneud ffrindiau, magu hyder a dysgu sgiliau newydd. Cawsom nifer dda iawn yn dod i’r sesiwn gyntaf, a ’does dim amheuaeth y bydd yn parhau i dyfu.”
Meddai Mike Leary, sy’n rhedeg MBox: “Roedd pob plentyn a oedd yn bresennol yn anhygoel! Buont yn hyfforddi mor galed a gwneud eu gorau glas, a ’doeddem ni ddim yn ei gwneud yn hawdd iddyn nhw…fe fuon nhw’n hyfforddi yn union fel bydd yr oedolion yn ei wneud!”
Mae’r sesiynau Ymarfer Bocsio ar gyfer pobl ifanc 11 i 17 oed. Maent yn cael eu cynnal ar ddyddiau Gwener rhwng 5:00pm a 5:45pm, ac yna mae’r Clwb Ieuenctid yn Nhŷ Hapus yn mynd o 6:00pm tan 8:00pm. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Mbox ar Facebook neu Tommy Lyness drwy ffonio 07519 559851 neu anfon e-bost at tommy.lyness@conwy.gov.uk
Am fwy o wybodaeth am Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid Conwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethieuenctid.
Wedi ei bostio ar 25/02/2025