Eid al Fitr

Eid Mubarak
Eid al Fitr, sydd hefyd yn cael ei alw’n Eid, ydi’r ŵyl sy’n nodi diwedd Ramadan, sef 9fed mis y calendr Moslemaidd sy’n cael ei nodi gan Foslemiaid ar draws y byd fel mis o ymprydio, gweddïo, myfyrio a chymuned. Mae’n cael ei ystyried yn un o adegau mwyaf ysbrydol y flwyddyn i Foslemiaid ac mae’n dynodi’r amser pan gafodd Qur’an, sef prif lyfr crefyddol Islam, ei ddatgelu.
Yn ystod Ramadan, mae Moslemiaid yn ymprydio o doriad gwawr tan fachlud haul bob dydd, ac Eid ydi’r amser cyntaf y gall Moslemiaid fwyta yn ystod oriau dydd ar ôl ymprydio yn ystod Ramadan. Mae’r cyfieithiad o “Eid al-Fitr” o Arabeg yn crynhoi’r gwyliau fel “gŵyl o dorri’r ympryd”, ac mae’n cael ei ddathlu gan 1.9biliwn o bobl ar draws y byd.
Mae yna amrywiaeth o lyfrau yn Llyfrgelloedd Conwy i helpu i nodi Eid yn cynnwys, “The Ramadan Cookbook: 80 delicious recipes perfect for Ramadan, Eid and celebrating throughout the year.” Tarwch olwg ar Gatalog Llyfrgell Conwy yma: Llyfrgelloedd Conwy | Catalog Llyfrgell)
Mae’r calendr Moslemaidd yn dilyn cyfnodau’r lleuad, sydd hefyd yn cael ei alw’n “cylch lleuadol.” Mae hyn yn golygu y gall union ddyddiad cychwyn a gorffen y gwyliau yma amrywio yn dibynnu ar y lleuad ac nid yw’n dechrau nes gwelir y lleuad newydd, sy’n golygu ei fod yn dechrau ar adegau gwahanol i Foslemiaid gwahanol o amgylch y byd.
Wedi ei bostio ar 28/03/2025