Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Make memories not mess this Bank Holiday Weekend

Gwnewch atgofion nid llanast dros Benwythnos Gŵyl y Banc


Summary (optional)
start content

Gwnewch atgofion nid llanast dros Benwythnos Gŵyl y Banc

Dros benwythnos Gŵyl y Banc, mae Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dros Gymdogaeth a’r Amgylchedd yn galw ar bawb i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel eu hunain wrth iddynt wneud y mwyaf o drefi, parciau, traethau a mannau prydferth y sir.

Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart: “Does dim esgus am adael sbwriel.  Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael gwared ar eu sbwriel yn gyfrifol, ac mae’n siomedig bod lleiafrif o bobl nad ydynt yn gwneud hynny. Mae sbwriel yn cael effaith negyddol ar fwynhad pawb o fyd natur, yn berygl i anifeiliaid ac yn llygru ein hamgylchedd.

“Mae tua 1200 o finiau cyhoeddus ar draws y sir. Bydd staff y Cyngor allan dros benwythnosau Gŵyl y Banc i wagio biniau sbwriel cyhoeddus, ond rydym yn annog pawb i fod yn gyfrifol am eu sbwriel. Os byddwch chi’n gweld bin sy’n llawn, peidiwch â gadael sbwriel wrth yr ochr – gallai ddenu anifeiliaid a fermin neu gael ei chwythu o gwmpas. Dewch o hyd i’r bin nesaf gyda lle ynddo. Ac os na allwch chi ddod o hyd i fin, yna ewch â’ch sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda.”

Wedi ei bostio ar 03/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content