Y Gweinidog yn agor Bron y Nant yn swyddogol

Y Gweinidog yn agor Bron y Nant yn swyddogol
Agorwyd Canolfan Seibiant Bron y Nant yn swyddogol ddydd Iau (06/03/2025) gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS.
Mae’r datblygiad pwrpasol gwerth miliynau o bunnoedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar Dinerth Road yn Llandrillo-yn-Rhos, yn darparu gofal a chefnogaeth i bobl yng Nghonwy sydd ag anableddau.
Mae Bron y Nant yn gartref i’r gwasanaethau Seibiant a Chanolfan Ddydd Gynhwysol i Bobl Anabl ac agorodd ei drysau i ddefnyddwyr y gwasanaeth ym mis Medi 2023.
Croeswyd y Gweinidog gan Brif Weithredwr Cyngor Conwy, Rhun ap Gareth a chafodd fynd ar daith o amgylch y cyfleusterau newydd.
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol:
“Roeddwn yn falch iawn o gael agor Canolfan Seibiant Bron y Nant i Bobl Anabl yn swyddogol a chlywed sut y bydd yn helpu i roi hwb i’r gofal a chefnogaeth sydd ar gael i bobl ag anableddau yng Nghonwy.
“Rydw i’n falch bod ein cyllid wedi helpu i alluogi’r tîm yma i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i fwy o bobl yn y gymuned ac yn nes at eu cartrefi.”
Dywedodd y Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig:
“Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Gweinidog i Fron y Nant. Mae’r datblygiad hwn yn rhan o’n gweledigaeth hirdymor i Wasanaethau Cymdeithasol Conwy, gan ein helpu i ddarparu ein gwasanaethau mewn amgylchedd pwrpasol, o ansawdd uchel.
“Bydd gallu darparu mwy o seibiant preswyl i bobl gydag anableddau dysgu, ac yn enwedig i bobl gydag anableddau corfforol a chyflyrau iechyd cronig, yn ein helpu ni i gefnogi ein gofalwyr anffurfiol yn well, gan sicrhau eu bod yn cael seibiant rheolaidd o’r rôl ofalu bwysig sydd ganddynt.”
Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyllid drwy raglen gyfalaf Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru, a gyfrannodd £1.45 miliwn tuag at ddatblygu’r prosiect hwn.
Dywedodd Dilwyn Morgan, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru:
“Mae Bron y Nant yn enghraifft wych o’r hyn sy’n cael ei gyflawni yng Nghonwy a rhanbarth Gogledd Cymru trwy raglenni buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a gwaith pawb sy’n gysylltiedig. Drwy gydweithio, gallwn gael mynediad at gyllid i gyflawni’r prosiectau cyfalaf sylweddol hyn, gan wella ac integreiddio gwasanaethau ac, yn anad dim, gwella bywydau dinasyddion.”
Wynne Construction o Fodelwyddan oedd y contractwr.
Dolen at fideo o Ganolfan Seibiant i Bobl Anabl Bron y Nant: https://www.youtube.com/watch?v=lmxuPIQNRJY
Wedi ei bostio ar 11/03/2025