Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cynllun Cymunedau sy'n Deall Dementia Gogledd Cymru

Cynllun Cymunedau sy'n Deall Dementia Gogledd Cymru


Summary (optional)
start content

Cynllun Cymunedau sy'n Deall Dementia Gogledd Cymru

North Wales Regional Partnership Board logo

Bwrdd Partneriaeth Rhanbartho Gogledd Cymru

Mae’r daith i greu cymunedau sy’n deall dementia ledled Gogledd Cymru wedi dechrau ers tro. Mae'r Mae Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia yn ymwneud â helpu i ddatblygu cymunedau sy’n dosturiol, yn gynhwysol ac yn gydnerth i bobl sy’n byw gyda dementia, a hefyd i gynorthwyo eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr di-dâl i gynnal cysylltiadau, a byw yn dda yn eu hardaloedd lleol.

Lansiodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Gogledd Cymru Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru ar 1 Ionawr 2024. Mae’r fenter hon yn adeiladu ar waith gwerthfawr Cymdeithas Alzheimer, y mae ei chynllun bellach wedi dod i ben, ac mae’n golygu cydweithio â chwe chyngor lleol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, busnesau lleol, ac elusennau.

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC) wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad y cynllun, gan rannu arbenigedd o'u prosiect Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia i gynorthwyo cynghorau eraill a hyrwyddo'r fenter ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Rebecca Bowcot, Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia, DVSC: “Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia ledled Sir Ddinbych wedi bod yn ffordd wych o rymuso unigolion a chymunedau i weithredu er mwyn helpu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn eu cymunedau lleol. Mae’n hynod werth chweil gweld pobl yn dod at ei gilydd i gyflawni eu nodau unigol yn ymwneud â dymuno cynorthwyo pobl fel y gall pawb barhau i gael eu cynnwys a chyfrannu’n weithredol at fywyd eu cymuned. Rydym yn cynnal cyfarfodydd Rhwydwaith Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia bob yn ail fis ac mae hynny’n galluogi cymunedau sy’n deall dementia i ddod at ei gilydd i rannu syniadau a chynorthwyo ei gilydd i alluogi eu cymunedau sy’n deall dementia i ddatblygu a ffynnu.”

Dywedodd y Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae codi ymwybyddiaeth o Ddementia, a thynnu sylw at y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael, yn allweddol er mwyn creu cymunedau sy’n deall dementia. Gall wneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai sy’n byw gyda Dementia a’r bobl o’u hamgylch”.  

Gall cymunedau sy’n cyfranogi yn y cynllun gael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion, a gallai hynny gynnwys:

  • Hyfforddiant ar gyfer staff mewn busnesau lleol
  • Arwyddion eglur a hawdd eu deall o amgylch y dref
  • Gweithgareddau deall dementia

Ar hyn o bryd, mae 12 cymuned yng Ngogledd Cymru yn cael eu cydnabod am eu cynnydd tuag at ddod yn gymunedau sy’n deall dementia, o Ynys Môn i Wrecsam.  Rhagwelir y bydd 12 cymuned arall yn ystyried cyflwyno cais am achrediad statws cymuned sy’n deall dementia yn ystod 2025.

Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun:

  • Cynorthwywyd dros 1,000 o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr di-dâl trwy grwpiau dementia.
  • Mynychodd mwy na 150 o bobl sesiynau hyfforddiant ynghylch dementia.
  • Dywedodd dros 1,400 o bobl fod ganddynt wybodaeth well am wasanaethau dementia yn eu cymuned.

Dywedodd un unigolyn sy’n byw gyda dementia: “Mae bod yn rhan o gymuned sy’n deall dementia yn helpu i sicrhau y caiff eich llais ei glywed. Mae hynny hefyd wedi helpu i hyrwyddo’r grŵp Precious Memories yn y Rhyl sy’n cynnal cyfarfodydd wythnosol ac sy’n ffynhonnell werthfawr o gymorth gan gymheiriaid i bobl”.

Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau a gyflwynwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (RPB) a’u partneriaid, sy’n gweithio i sicrhau bod cymunedau’n fwy cynhwysol a grymusol: https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/bwrdd-partneriaeth-rhanbarthol-gogledd-cymru//

I gael rhagor o fanylion am Gynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru a sut i gyflwyno cais, trowch at: https://www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/dementia/

Wedi ei bostio ar 07/03/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content