Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy Ddiogelach yn gosod teledu cylch cyfyng newydd

Conwy Ddiogelach yn gosod teledu cylch cyfyng newydd ar draws Bae Colwyn


Summary (optional)
start content

Conwy Ddiogelach yn gosod teledu cylch cyfyng newydd ar draws Bae Colwyn

Mae Gweithredwyr TCC Conwy bellach yn gallu cael mynediad at gyfres o gamerâu newydd ar draws Bae Colwyn.

Mewn partneriaeth â Thîm Plismona yng Nghymdogaeth Gorllewin Conwy a Chyngor Tref Bae Colwyn, llwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau arian gan Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y DU.

Mae’r camerâu newydd yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd trwy fonitro 24 awr, a byddant yn cael eu defnyddio i gasglu tystiolaeth a thargedu digwyddiadau gan gynnwys troseddau difrifol, difrod troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, graffiti, sbwriel, baw cŵn a thipio anghyfreithlon.

Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd yng Nghyngor Conwy: “Mae ein dull gweithio mewn partneriaeth ac arloesedd ein timau TCC Diogelwch Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd yn rhan hanfodol o ymrwymiad ac ymdrech Conwy i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr ar draws y Sir yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel.” 

Dywedodd Peter Brown, Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:  “Mae cefnogaeth barhaus Cynghorwyr Sir a Chynghorau Tref i gefnogi prosiectau TCC, a chynnal a diweddaru’r camerâu mewn mannau cyhoeddus, yn allweddol er mwyn atal a chanfod trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan roi sicrwydd i’n cymunedau”.

Ychwanegodd: “Mae Conwy yn agor ei gwasanaeth TCC i bartïon eraill sydd â diddordeb a hoffai ddefnyddio’r gwasanaeth. Os hoffai eich busnes neu sefydliad ddarganfod mwy e-bostiwch cctv@conwy.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Hannah Fleet, Maer Tref Bae Colwyn: “Rwy’n croesawu ychwanegu’r camerâu hyn at ein darpariaeth teledu cylch cyfyng. Byddant yn helpu ein preswylwyr i deimlo’n ddiogel ac i’n helpu i gadw strydoedd, mannau chwarae a glannau’r traeth yn groesawgar ac yn lân i bawb.”

Lleoliadau:

  • Ffordd yr Orsaf, Ffordd Penrhyn (ali) – Camera sy’n chwyddo-panio-gogwyddo (PTZ) y gellir ei adleoli.
  • Seaview Road/Rhodfa’r Tywysog (wrth ddynesu at yr orsaf) – 2 x Sefydlog
  • Ystâd Glyn (Groes Road, man chwarae i blant) PTZ y gellir ei adleoli
  • Traeth Porth Eirias (gorllewin) PTZ parhaol (ffotograffau ynghlwm).
  • Queens Drive (Gerddi'r Frenhines) - PTZ parhaol

Dilynwch ni ar Twitter @conwycctv

Dolenni defnyddiol:
www.conwy.gov.uk/tcc 
Conwy Diogelach - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Tref Bae Colwyn | (colwyn-tc.gov.uk)

Wedi ei bostio ar 07/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content