Telerau ac Amodau
Os am unrhyw reswm na fydd modd i chi fynychu, rhowch wybod i'ch Rheolwr ac i'r Swyddfa Hyfforddi / Swyddog Hyfforddi perthnasol cyn gynted ag y bo modd.
- Os nad ydych yn mynychu'r cwrs hwn ac nad oes enw arall yn cael ei gynnig i fynychu yn eich lle, codir ffi o £50.00 am beidio mynychu.
- Mae hyn yn berthnasol i'r sector annibynnol ac yn fewnol.
- Nodwch fod angen derbyn 10 diwrnod o rybudd mewn ysgrifen naill ai ag e-bost neu trwy’r post.
- Nid ydym yn derbyn rhybuddion canslo ar Lafar.
- Rydym yn derbyn newid enwau hyd at 10 diwrnod cyn y digwyddiad.
- Yr unig eithriadau i’r polisi hwn yw;
- Salwch
- Profedigaeth
- Mynd i'r llys yn rhinwedd eich swydd
- Absenoldeb Arbennig
Bydd y ffioedd fel a ganlyn
- Codir y tâl llawn am gyrsiau allanol. Os yw'r cwrs yn cael ei ganslo o fewn y terfyn amser ar gyfer canslo a nodir gan y darparwr hyfforddiant ni fydd unrhyw ffi i'w thalu. Os codir ffi canslo gan y darparwr hyfforddiant yna dyna faint godir arnoch.
- Bydd tâl o £50 y pen ar gyfer cyrsiau mewnol os nad ydych yn rhoi rhybudd o 10 diwrnod gwaith eich bod yn canlso. Os bydd aelod arall o staff yn mynychu yn lle'r sawl oedd wedi archebu'r cwrs yn wreiddiol ni fydd unrhyw ffi i'w thalu.
- Byddwn yn dod i benderfyniad ynglŷn â chostau cyrsiau sy'n arwain at gymhwyster, e.e. NVQ, ASW, DIPSW ar sail unigol pan fydd staff yn methu mynychu eu darlithoedd / yn methu cwblhau'r cwrs.
- Mae angen i staff fod yn ymwybodol mai eu cyfrifoldeb nhw yw arwyddo cofrestr y cwrs gan mai dyna'r dull sy'n cael ei ddefnyddio i weld pwy sydd wedi mynychu / ddim wedi mynychu pob cwrs, a maes o law, i godi ffi am beidio â mynychu.
Os oes unrhyw anghytuno ynglŷn â'r ffioedd gallech gysylltu â'r Rheolwr Hyfforddi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi ffurflen werthuso ar ddiwedd yr hyfforddiant ac yn ei dychwelyd i'ch Swyddog(ion) Hyfforddi dynodedig ar ddiwrnod yr hyfforddiant, neu, o fewn wythnos i'r digwyddiad i'r Tîm Gweinyddol Gweithlu GC, Y Gwasanaethau Cymdeithasol, Coed Pella, Ffordd Conway, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7AZ
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â'r adain hyfforddi briodol - Gwasanaethau Cymdeithasol, 01492 574577 Tîm Gweinyddol Gweithlu GC.
Nodwch: Ni Ddarperir Cinio.