Mae’r Cyngor wedi nodi cynigydd a ffafrir ar gyfer prydles 250 mlynedd swyddfeydd Bodlondeb.
Mae’r brydles yn eithrio’r lawnt, y cae criced a’r cyrtiau tennis, yn ogystal â’r senotaff.
Mae sawl man agored o fewn y brydles arfaethedig; mae rhwymedigaeth ar y Cyngor i roi gwybod i’r cyhoedd am unrhyw fan agored a waredir. Gweler yr hysbysiad cyfreithiol.
Mae’r brydles arfaethedig ar gyfer yr ardal sydd wedi’i nodi â llinell goch yng ‘Nghynllun 2’ lle byddai’r Cyngor yn cadw’r hawl i basio a phasio eto ar draws ardaloedd amrywiol sydd wedi’u nodi â lliw glas golau a thywyll yng ‘Nghynllun 2’
Dogfennau