Rhwng 24 Mai ac 18 Gorffennaf 2021, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth ddrafft 2021-26.
Roedd 761 o ymatebion i’r holiadur arolwg. Cafwyd cefnogaeth gan yr ymgyngoreion ar gyfer y camau gweithredu canlynol:
- Cyfrannu at ddarparu Strategaeth Ddiwylliant Conwy drwy gefnogi rhaglen weithredol o weithgareddau diwylliannol.
- Parhau i ddatblygu Canolfan Ddiwylliant Conwy.
- Gwerthuso model y Llyfrgell Gymunedol ar ôl pum mlynedd o fodolaeth. Cytuno ar fodel cynaliadwy ar gyfer y 5 mlynedd nesaf mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned.
- Parhau i weithio mewn partneriaeth gydag iechyd a gofal cymdeithasol i edrych ar yr amrywiaeth o gyfleoedd mae lleoedd ac adnoddau llyfrgell yn eu darparu i gefnogi iechyd meddwl a lles.
- Cynyddu’r defnydd o dechnoleg i wella mynediad i wasanaethau gwybodaeth y Cyngor.
- Datblygu gwasanaethau i gymunedau sy’n bell i ffwrdd o wasanaethau’r Cyngor, drwy ddefnyddio'r llyfrgell deithiol a’r llyfrgell yn y cartref.
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar Gymryd rhan mewn astudiaeth ddichonoldeb, a nodwyd fel rhan o’r prif gynllun, ar gyfer Canolfan Gymunedol yng ngorllewin Abergele.
Ychydig o wybodaeth sydd yn lleol am y cynigion, gyda 41.5% yn ateb nad oeddent yn gwybod. Bydd y cam gweithredu hwn yn parhau yn y Strategaeth, a byddwn yn awgrymu cynnal ymgysylltiad cyhoeddus fel rhan o unrhyw waith astudiaeth ddichonoldeb.
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar Ddod â gwasanaethau Cyngor Conwy i’r cyhoedd ym Mae Colwyn at ei gilydd, drwy asesu’r posibilrwydd o leoli Llyfrgell Bae Colwyn yng Nghoed Pella.
Roedd 756 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, ac nid oedd 74.9% o ymatebwyr yn ei gefnogi. Yng ngoleuni adborth yr ymgynghoriad, cafodd y cam gweithredu ei addasu i, Cyflawni astudiaeth opsiynau ar gyfer darparu canolbwynt cymunedol yn Llyfrgell Bae Colwyn.
Bydd yr astudiaeth yn edrych ar y posibilrwydd o ddarparu mwy o wasanaethau o’r adeilad llyfrgell presennol a chynyddu mynediad, o bell ac yn bersonol i ystod eang o wasanaethau i gefnogi sgiliau, cyflogadwyedd, cynhwysiant digidol ac iechyd a lles.
Hoffem ddiolch i bawb wnaeth ymateb. Gyda’r diwygiadau a wnaed ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y Strategaeth ei chymeradwyo gan Gabinet Conwy ar 26 Hydref, 2021.
Gellir gweld fersiwn derfynol Strategaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Conwy 2021-2026 yn Polisïau’r Llyfrgell – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bydd y camau gweithredu yn y strategaeth yn cael eu blaenoriaethau nawr a bydd gwaith manwl yn cael ei wneud ar bob cam gweithredu dros y 5 mlynedd nesaf.