Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad ar Llyfrgell Llandudno


Summary (optional)
start grid

Dweud eich dweud am adleoli Llyfrgell Llandudno

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad £10 miliwn ar gyfer Venue Cymru trwy’r rhaglen Ffyniant Bro. Mae’r buddsoddiad hwn yn gyfle cyffrous i ni ystyried sut gallwn ni gynyddu buddion y prosiect i’r rhai sy’n byw yn y sir, yn gweithio ynddi ac yn ymweld â hi, trwy ystyried sut gallwn ni gysylltu gwasanaethau a gweithio mewn ffordd wahanol.

Fel rhan o’r prosiect hwn ac yn amodol ar gael cymeradwyaeth ddemocrataidd, rydym am ystyried symud Llyfrgell Llandudno i adeilad estynedig Venue Cymru oherwydd ein bod yn credu y byddai llawer o fuddion i ddefnyddwyr y llyfrgell.

Rydym yn ceisio eich barn am y dewis hwn a fydd yn helpu i ddiogelu a gwella’r llyfrgell ar gyfer y dyfodol. Diolch am dreulio amser yn llenwi’r arolwg hwn, ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w lenwi.

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 23 Medi 2024

Diolch i bawb a aeth ati i lenwi’r arolwg. Rydym wrthi’n casglu’r ymatebion ar hyn o bryd a byddwn yn eu cyflwyno i’r Cynghorwyr yn nes ymlaen i helpu llywio’u penderfyniad.

end grid
page rating

page rating - did you find what you were looking for?