Hysbysiad o Etholiad
Cyngor Tref Conwy - Ward Pensarn
Cynhelir etholiad ar gyfer un Cynghorydd Tref ar gyfer Cyngor Tref Conwy (ward Pensarn)
Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau, 23 Ionawr 2025
Cael papurau enwebu
- 1. Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau naill ai ym Modlondeb, Conwy, LL32 8DU neu’n electronig drwy etholiadol@conwy.gov.uk.
Cyflwyno papurau enwebu
- 2. Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ddim hwyrach na 4pm ddydd Llun, 23 Rhagfyr 2024.
- 3. Gellir cyflwyno papurau enwebu yn bersonol i’r Swyddog Canlyniadau ym Modlondeb, Conwy, LL32 8DU rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn ymlaen (ac eithrio gwyliau banc) neu’n electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflwyno'n electronig isod.
- 4. Os bydd etholiad, cynhelir y bleidlais ddydd Iau, 23 Ionawr 2025.
Cofrestru Etholwyr
- 5. Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn dydd Mawrth, 7 Ionawr 2025. Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Pleidlais bost a thrwy ddirprwy
- 6. Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod rhaid i bob cais am bleidlais bost newydd, neu gais i ddiwygio neu ganslo pleidlais bost bresennol, gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn 5pm, ddydd Mercher 8 Ionawr 2025. Mae hyn yn cynnwys etholwyr neu eu dirprwyon sy’n dymuno diwygio eu trefniadau presennol yn barhaol.
- 7. Rhaid i geisiadau i benodi dirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU erbyn 5pm, ddydd Mercher 15 Ionawr 2025.
- 8. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith/gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm, ddydd Iau 23 Ionawr 2025. Rhaid i’r anallu corfforol fod wedi digwydd ar ôl 5pm, ddydd Mercher 22 Ionawr 2025. I wneud cais ar sail gwaith/gwasanaeth, rhaid i’r unigolyn fod wedi dod i wybod na allant fynd i’r orsaf bleidleisio eu hunain ar ôl 5pm, ddydd Mercher 15 Ionawr 2025.
Datganiad cyflwyno’n electronig
- 9. Gellir cyflwyno papurau enwebu yn electronig yn unol â'r trefniadau a nodir yn y datganiad hwn -
Sylwch:
-
- Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn cael y ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y dyddiadau cau.
- Nid yw derbyn derbynneb darllen electronig gan y Swyddog Canlyniadau yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad i ymgeiswyr i roi gwybod iddynt a yw eu henwebiad yn ddilys ai peidio.
- Os bydd arnoch angen cymorth i gyflwyno eich enwebiadau’n electronig, cysylltwch ag etholiadol@conwy.gov.uk.
Rhun ap Gareth, Swyddog Canlyniadau
Dyddiedig: Dydd Gwener, 13 Rhagfyr 2024
Cyhoeddwyd gan: y Swyddog Canlyniadau, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU
Rhif ffôn: 01492 576052