Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

System Atodlen Briodas


Summary (optional)
start content

Mae deddfwriaeth briodas newydd yn golygu y bydd y ffordd y mae priodas wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr yn newid o 4 Mai 2021.

Beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i chi?

Bellach ni fyddwch yn llofnodi cofrestr briodas nac yn cael Tystysgrif Briodas yn ystod y seremoni, yn lle hynny byddwch yn llofnodi AtodlenBriodas. Mae hon yn ddogfen un dudalen sy'n cynnwys manylion y ddau berson sy'n priodi sydd eu hangen i gofrestru priodas

Darperir yr Atodlen Briodas gan y Cofrestrydd Arolygol yn ardal gofrestru'ch priodas a bydd yn cynnwys yr holl fanylion sy'n ofynnol i gwblhau cofrestriad priodas.

O'r dyddiad hwn, yn ogystal â manylion y tad, bydd modd cofnodi manylion rhieni eraill h.y. mam, llys-riant.

Bydd yn ofynnol o hyd i bob person roi rhybudd o briodas a bydd y seremoni briodas yn aros yr un fath, dim ond y ffordd y cofrestrir priodas a fydd yn newid.

Sut fyddwch chi'n cael yr Atodlen Briodas?

Darperir yr Atodlen Briodas gan y Cofrestrydd Arolygol yn ardal gofrestru'ch priodas.

  • Os ydych chi'n priodi mewn seremoni sifil neu grefyddol, fel nawr, bydd yn ofynnol i chi roi rhybudd o briodas o hyd, yn y swyddfa gofrestru yn yr ardal lle rydych chi wedi treulio'r 7 diwrnod blaenorol.
  • Cyhoeddir yr atodlen gan y Cofrestrydd Arolygol yn dilyn y cyfnod aros o 28 diwrnod.
  • Os nad ydych yn priodi mewn adeilad crefyddol bydd y Cofrestrydd Arolygol yn cadw'ch Atodlen tan y seremoni
  • Os ydych yn priodi mewn seremoni grefyddol, rhaid i chi drefnu i'r Atodlen Briodas gael ei chasglu a'i chludo i'r person a fydd yn cyflawni'r briodas yn yr adeilad crefyddol cyn eich seremoni. Bydd y Cofrestrydd Arolygol yn egluro'n fanylach sut y bydd y broses hon yn gweithio.
  • Os ydych yn priodi yn Eglwys Loegr / Yr Eglwys yng Nghymru bydd angen i chi gysylltu â'r Eglwys yn y plwyf lle rydych yn bwriadu priodi.

Gwybodaeth a gynhwysir ar yr Atodlen Briodas

Bydd Atodlen Briodas yn cynnwys manylion pob person sy'n priodi: enw a chyfenw, dyddiad geni, cyflwr, cyfeiriad a galwedigaeth.

Gallwch gofnodi manylion eich mam, tad neu rieni ar yr atodlen Briodas ac yn y cofrestriad priodas. Bellach mae darpariaeth i gynnwys llys-rieni.

Fe'ch anogir i ddarparu'r wybodaeth hon pan fyddwch yn rhoi rhybudd. Fodd bynnag, os na wnaethoch chi roi'r manylion hyn yn eich apwyntiad rhybudd, gallwch ddarparu'r wybodaeth naill ai cyn neu ar ddiwrnod eich priodas

Llofnodi'r Atodlen Briodas

Ar ôl eich seremoni briodas, gofynnir i chi wirio bod y manylion yn yr Atodlen Briodas yn gywir, gan gynnwys sillafu enwau ac ati.

Ar ôl eu gwirio, byddwch chi, eich tystion a'r swyddogion cofrestru neu berson perthnasol o'r adeilad crefyddol yn llofnodi'r Atodlen Briodas.

Sut y bydd eich cofrestriad priodas yn cael ei wneud?

Os byddwch yn priodi mewn seremoni sifil bydd y swyddog cofrestru'n cadw'r Atodlen Briodas lofnodedig ac yn ychwanegu'r manylion ar y gofrestr electronig yn y swyddfa gofrestru.

Os byddwch yn priodi mewn seremoni grefyddol, bydd y person perthnasol o'r adeilad crefyddol yn dychwelyd yr Atodlen Briodas wedi'i chwblhau a'i llofnodi i'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle digwyddodd eich priodas o fewn 21 diwrnod ar ôl eich priodas.. Unwaith y derbynnir yr Atodlen Briodas wedi'i chwblhau a'i llofnodi yn y swyddfa gofrestrubydd y manylion yn cael eu rhoi ar y gofrestr briodasau electronig o fewn y 7 diwrnod dilynol; dim ond wedyn y bydd tystysgrif briodas ar gael.

Pam na allwch chi lofnodi cofrestr briodasau?

O 4ydd Mai 2021 ni ddefnyddir cofrestrau priodas papur mwyach; yn lle bydd system gofrestru electronig ganolog yn dod yn gofrestr gyfreithiol.  Mae'r newid yn y gyfraith yn golygu y bydd manylion eich priodas yn cael eu cofnodi ar Atodlen Briodas. O'r ddogfen hon y bydd eich cofrestriad priodas yn cael ei greu.

Pryd fyddwch chi'n gallu cael Tystysgrif Briodas?

Dim ond ar ôl i'r manylion gael eu nodi ar y gofrestr briodasau electronig y rhoddir tystysgrif briodas. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu cael tystysgrif briodas ar ddiwrnod eich priodas.  Mae hyn yn berthnasol p'un a ydych yn priodi mewn seremoni sifil neu seremoni grefyddol

Bydd manylion eich priodas yn cael eu nodi ar y gofrestr gofrestru electronig o fewn 7 diwrnod ar ôl derbyn eich Atodlen Briodas lofnodedig yn y swyddfa gofrestru, yn yr ardal lle gwnaethoch chi briodi. 

Sut i gael tystysgrif briodas

Bydd tystysgrifau priodas ar gael o'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle digwyddodd eich priodas.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n colli'ch Atodlen Briodas.

Os byddwch chi'n colli'ch Atodlen Briodas cyn eich seremoni, dylech gysylltu â'r Cofrestrydd Arolygol yn y swyddfa gofrestru lle cyhoeddwyd yr Atodlen Briodas

Cwestiynau pellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau dylech wirio'r manylion ar y wefan www.gov.uk

Os na allwch ganfod yr ateb i'ch cwestiwn dylech gysylltu â'r swyddfa gofrestru yn ardal eich priodas neu gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar y ffôn: 0300 123 1837 neu e-bostio: GROcasework@gro.gov.uk

Mae tystysgrifau priodas hefyd ar gael o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn www.gov.uk

https://www.gov.uk/order-copy-birth-death-marriage-certificate

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?