Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Troseddau ac Argyfyngau Trosedd TCC Conwy Alarm Receiving Centre

Canolfan Derbyn Larymau Conwy


Summary (optional)
start grid

Canolfan Derbyn Larymau Conwy

Rydym fel gwasanaeth wedi ennill sawl gwobr ac yn bodloni safonau rhyngwladol, rydym wedi derbyn cymeradwyaeth Aur yr NSI ac wedi cofrestru â BAFE, sy’n dangos ein bod yn gymwys yn dechnegol, yn cael ein rheoli mewn modd proffesiynol ac yn unigryw iawn, rydym yn gweithredu dan System Rheoli Ansawdd ISO 9011.

Rydym yn darparu datrysiadau diogelwch unigryw ar gyfer derbyn larymau a monitro adeiladau a mannau cyhoeddus drwy deledu cylch caeedig. Rydym yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn yn monitro larymau a theledu cylch caeedig ar gyfer parciau, traethau, canol trefi, adeiladau cyhoeddus a sector preifat, ysgolion, toiledau cyhoeddus, canolfannau siopa, canolfannau parcio diogel a chyfleusterau hamdden.

Rydym wedi bod yn gweithredu ers 2018 o ystafell fonitro bwrpasol a diogel ym Mae Colwyn er mwyn darparu sicrwydd i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Ein Cenhadaeth

Darparu canolfan derbyn larymau o ansawdd uchel i gefnogi Conwy i fod yn sir flaengar sy’n creu cyfleoedd.

end grid
page rating

page rating - did you find what you were looking for?