Cyllidebu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfrifo cyllideb cyn dechrau ailwampio eiddo gwag. Mae'r Asiantaeth Tai Gwag yn awgrymu cyllidebu ar gyfer swm wrth gefn o 10% o leiaf, ac os yw'r eiddo yn adfeiliedig iawn, dylai fod yn agosach at 25%.
Yswiriant
Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant i drafod y gwaith sydd wedi’i gynllunio a’r amserlenni i wneud yn siŵr bod gennych y lefel gywir o yswiriant
Cyfyngiadau Cyfreithiol
Mae syniadau llawn dychymyg ar gyfer ailddatblygu eiddo gwag yn dda, ond os na fydd yn cael caniatâd cynllunio neu ganiatâd rheoliadau adeiladu, bydd angen i chi feddwl eto. Efallai bydd angen i chi ystyried os yw’r eiddo yn Adeilad Rhestredig neu mewn ardal gadwraeth.
Dewis adeiladwr
Gall y gwaith adeiladu fod yn ddrud a gall fod yn llawn straen felly mae’n bwysig dewis yr adeiladwr cywir i weithio i chi. Nid dim ond y 'cowbois' anonest rydych angen eu hosgoi, nid yw rhai masnachwyr gonest a diffuant iawn yn addas i wneud y gwaith chwaith.
Gallwch siarad â’ch teulu neu ffrindiau am argymhellion ac mae nifer o wefannau ar gael: