Cyn gosod eiddo
Dylech hefyd ystyried os yw eich eiddo yn cyrraedd y safon iechyd a diogelwch sy’n ofynnol ar gyfer ei osod drwy ddilyn y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai: canllaw i landlordiaid a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud ag eiddo - GOV.UK (www.gov.uk). Gall ein swyddogion Tai a Llygredd eich helpu gydag unrhyw ymholiadau o ran y safon hon.
- Rhydd-ddeiliad - os ydych yn ystyried gosod fflat prydlesol
- Adran Gynllunio’r Cyngor – os ydych yn bwriadu gwneud newidiadau strwythurol i'r eiddo, neu newid ei ddefnydd
- Adran Tai ai Llygredd y Cyngor - a fydd yn cynghori ar y safon sy’n rhaid i’r eiddo ei fodloni er mwyn ei osod
- Adran Treth y Cyngor
- Cwmni Yswiriant Eiddo
- Swyddfa dreth, cyfrifydd neu gynghorydd ariannol
Os ydych yn berchen ar eiddo gwag, ond ddim yn dymuno’i werthu, yna mae’n gwneud synnwyr i’w rentu. Nid yn unig y byddai hynny’n rhoi cartref i rywun sydd ei angen, ond byddai hefyd yn cynhyrchu incwm i chi fel perchennog.
Mae nifer o opsiynau ar gael.
Drwy asiantaeth gosod tai
Mae nifer o asiantaethau gosod tai preifat sy’n darparu gwasanaethau yng Nghonwy ac ar y cyfan maen nhw’n gallu cynghori ar renti’r farchnad, safonau eiddo, canfod ac asesu tenantiaid posibl, drafftio cytundebau tenantiaeth a rheoli eiddo. Fel gyda phob sefydliad, mae asiantaethau gosod tai yn gweithredu i safonau gwahanol, felly sicrhewch eich bod yn gwneud ymholiadau priodol i fodloni eich hun o ran beth fyddant yn ei gynnig cyn i chi fynd i gytundeb gyda nhw. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr llety ag enw da wedi’u cofrestru gydag un neu fwy o’r canlynol:
Cynllun Gosod Eiddo Cenedlaethol Cymeradwy
- Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl
- Cymdeithas Genedlaethol yr Asiantau Tai
- Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig – sydd â chanllaw ar osod eiddo a dewis asiant hefyd
Gosod trwy Gymdeithas Tai
Mae gan rai Cymdeithasau Tai ddiddordeb mewn gosod a rheoli eiddo preifat. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan HAWS (http://www.haws.org.uk/cy/gwasanaethau/).
Gosod tŷ eich hun
Mae’n rhaid i chi ddilyn rheolau penodol pan fyddwch yn rhoi tenantiaeth a bydd gennych lawer o rwymedigaethau fel landlord. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r rhain ac yn gwybod y diweddaraf am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth a all effeithio arnoch chi neu’r eiddo yr ydych yn ei rhentu. Gallwch ymuno â sefydliadau Landlordiaid, tanysgrifio i wefannau ar gyfer landlordiaid neu gadw llygad ar wefannau sy’n rhoi gwybodaeth fel:
Bydd angen i chi fod yn ‘drwyddedig’ gyda Rhentu Doeth Cymru os ydych yn bwriadu rheoli eich tenantiaeth eich hunan. Mae’n rhaid i bob eiddo rhent fod wedi ‘cofrestru’ â Rhentu Doeth Cymru.
I gael rhagor o gyngor ar rentu eiddo gwag, gallwch gysylltu â ni neu ewch ar ein Tudalennau i Landlordiaid - Gwybodaeth i Landlordiaid - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Rhentu Doeth Cymru
Ers 23 Tachwedd 2015, mae gofyn i bob Landlord yng Nghymru gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Yn ychwanegol at hyn, os yw landlord yn gosod neu’n rheoli eiddo, mae’n rhaid iddynt gael trwydded. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Tai ar:
E-bost: taigwag@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 574235
Ysgrifennwch atom ni
Y Strategaeth Tai
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GL.