Mae Datrysiadau Tai Conwy yn cynnig gwasanaeth prydlesu sector preifat didrafferth i landlordiaid yn ardal Sir Conwy.
Bydd landlordiaid yn cael:
- Taliadau rhent wedi’u gwarantu am 12 mis o’r flwyddyn
- Dim colli rhent pan fydd eiddo yn wag.
- Bydd unrhyw ddifrod a achosir gan y tenant yn cael ei drwsio heb unrhyw gost i’r landlord
- Ni fydd yn rhaid i’r landlordiaid ymwneud yn uniongyrchol â thenantiaid.
- Archwiliadau iechyd a diogelwch am ddim
- Dim rhwymedigaethau Rhentu Doeth Cymru i’w bodloni.
Rhent Gwarantedig
Bydd rhent yn sicr o gael ei dalu i chi am 12 mis y flwyddyn, ni waeth a oes rhywun yn byw yn yr eiddo ai peidio. Bydd swm y rhent y byddwch yn ei dderbyn gyfwerth â’r Lwfans Tai Lleol ar gyfer maint eich eiddo. Mewn rhai amgylchiadau gall hyn fod yn llai na gwerth y farchnad; fodd bynnag, nid oes unrhyw ffioedd rheoli’n daladwy nac unrhyw ddidyniadau o’r rhent, felly, y symiau a nodir isod yw’r symiau a dderbyniwch bob mis.
Mae’r cyfraddau y cynigiwn ar gyfer eiddo sy’n rhan o’r Cynllun fel a ganlyn:
1 ystafell wely = £393.90 bob mis calendr
2 ystafell wely = £548.51 bob mis calendr
3 ystafell wely = £648.22 bob mis calendr
4 ystafell wely = £852.67 bob mis calendr
Cysylltwch â ni i drafod eiddo sydd â 5 ystafell wely neu fwy.
Rhagor o wybodaeth
I drafod y cynllun neu eiddo penodol gydag aelod o’r tîm, rhowch eich manylion isod:
Darllenwch y daflen ffeithiau (PDF, 325KB)
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050 a gofyn am siarad gyda Swyddog Mynediad Sector Preifat, neu anfonwch e-bost at housingsolutions@conwy.gov.uk