Mae’r rhan hon wedi’i dynodi’n barth teuluoedd ac rydym eisiau creu lle hygyrch a chroesawus i deuluoedd ar y promenâd.
playarea1
playarea2Fel rhan o’r gwelliannau byddwn yn creu chwe ardal chwarae ar wahân i blant eu mwynhau wrth iddynt gerdded ar hyd y promenâd.
Bydd yr ardaloedd chwarae hyn yn cynnwys::
- cromenni camu a thrawstiau cydbwysedd
- llwybrau chwarae egnïol
- offer ‘parkour’
- polion totem
- offer chwarae acwstig
- marciau ‘hopscotch’
- byrddau cyfathrebu drwy luniau
Chwarae Hygyrch
Rydym wedi dylunio’r ardaloedd chwarae i fod yn ddeniadol ac yn hygyrch i bob plentyn. Nid yw pob plentyn yn gallu defnyddio offer chwarae safonol. Cafodd peth o’r offer ei ddewis yn arbennig ar gyfer symbyliad synhwyraidd ac i annog rhyngweithio â’r amgylchedd.
Diogelwch
playarea3Bydd yr ardaloedd chwarae wedi’u marcio’n glir ac wedi’u gwahanu’n ddiogel oddi wrth y llwybr cerdded a beicio er mwyn rhoi lle diogel i blant chwarae.
Tudalen nesaf