Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Batris mewn biniau yn achosi tanau mewn lorïau bin

Batris mewn biniau yn achosi tanau mewn lorïau bin


Summary (optional)
start content

Batris mewn biniau yn achosi tanau mewn lorïau bin

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog preswylwyr i beidio â rhoi batris yn eu biniau, yn dilyn dau dân diweddar mewn lorïau bin.

Bu’n rhaid i griwiau casglu sbwriel ymateb yn gyflym yn dilyn y digwyddiadau diweddar pan gynodd tanau yng nghefn y cerbydau yn Albert Drive, Deganwy a Bryn Marl, Llandundo.  Fe sylwodd y criwiau oedd yn gwagio’r biniau ar y tân wedi cynnau ac fe wnaethant ffonio’r Gwasanaeth Tân ac Achub.  Fe gyrhaeddodd y diffoddwyr tân yn gyflym y ddau dro i ddiffodd y tân a dilyn y cerbyd yn ôl i’r depo gwastraff.  Cafodd y gwastraff ei ddadlwytho ac fe gafodd ei wirio’n iawn gan y diffoddwyr tân gan y gall tanau fel hyn ailgynnau.

Nid oedd modd defnyddio’r cerbydau am gyfnod tra bod gwiriadau diogelwch yn cael eu cynnal arnynt, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i fynd yn ôl ar y ffordd.

Gall batris ïon lithiwm sydd i’w canfod yn aml mewn gwrthrychau megis fêps, teganau a brwsys dannedd trydan, achosi tanau sydd yn anodd iawn i’w diffodd.  Maent yn dueddol o ailgynnau a gallant arwain at ffrwydradau a dod i gysylltiad â chemegau, gan greu perygl i’r cyhoedd, gweithwyr sbwriel a diffoddwyr tân.

“Gall batris gael eu gwasgu neu eu difrodi mewn lorïau bin neu safleoedd gwastraff ac achosi tanau.  Batris ïon lithiwm wedi’u cuddio y tu mewn i wrthrychau bob dydd ydyn nhw,” meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet Cymdogaeth a’r Amgylchedd.  “Rydym ni’n cynnig casgliad batris wythnosol i breswylwyr, ac mae ein partneriaid, Crest, yn casglu eitemau trydanol bach bob pythefnos.  Helpwch i gadw ein gweithwyr yn ddiogel os gwelwch yn dda.  Dim ond munud mae’n ei gymryd i ailgylchu, mae’n cymryd llawer hirach i ddiffodd tân sy’n cael ei achosi pan fyddwch chi’n rhoi batri yn y bin.”

Meddai Pam Roberts, Rheolwr Gwylfa Diogelwch Tân Ardal Ganolog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae yna lawer o eitemau y gellir eu hailwefru yng nghartrefi cyffredin y DU allai gynnwys batris ïon lithiwm megis gliniaduron, ffonau symudol, e-sgwteri, e-sigaréts a cherbydau symudedd. Mae gan bob un o’r eitemau yma botensial i achosi tân difrifol, felly rydw i’n annog y cyhoedd i gael gwared ar yr eitemau yma’n gyfrifol gan ddefnyddio gwasanaethau casglu batris gwastraff trydanol eu Cyngor lleol yn hytrach na’u taflu nhw gyda’u sbwriel cyffredinol.

“Rydw i’n canmol y criwiau casglu sbwriel a fu’n rhan o’r digwyddiadau yma am ymateb ar unwaith a ffonio’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar ôl iddynt sylwi bod tanau wedi cynnau yn eu cerbydau.  Trwy ymateb yn gyflym fe wnaethant sicrhau na achosodd y tanau yma niwed difrifol i’w hunain, eu cydweithwyr nac aelodau o’r cyhoedd.  Mae tanau sy’n cael eu hachosi gan fatris ïon lithiwm yn datblygu’n gyflym iawn felly cofiwch, os bydd tân, peidiwch â cheisio ei ddiffodd eich hun - ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.”

Wedi ei bostio ar 09/08/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?