Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cytundeb ar brydles Bodlondeb

Cytundeb ar brydles Bodlondeb


Summary (optional)
start content

Cytundeb ar brydles Bodlondeb

Bodlondeb Offices - Conwy County Borough Council

Swyddfeydd Bodlondeb

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Quidos Investments Limited wedi llunio Cytundeb Prydles ar gyfer swyddfeydd Bodlondeb yng Nghonwy.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Charlie McCoubrey: “Mae’n bleser gen i gadarnhau ein bod wedi llunio Cytundeb Prydles ar gyfer Bodlondeb.”

“Rydym wedi gallu gwneud y penderfyniad i symud ein gwasanaethau swyddfa i un lleoliad yn gwybod y bydd defnydd newydd cynaliadwy yn cael ei wneud o’r adeilad hardd hwn.  Ac rwy’n falch iawn fod yna ddyfodol disglair i Fodlondeb - yn cynnig canolfan ar gyfer cyfleoedd datblygu economaidd i dref Conwy a’r ardal ehangach.” 

Meddai’r Athro Dylan Jones-Evans, cyfarwyddwr Ideas Forums a fydd yn cydweithio â Quidos i ddatblygu canolfan fusnes newydd ym Modlondeb:

“Ers cytuno i gymryd yr adeilad hanesyddol hwn drosodd yr haf diwethaf, rydym wedi bod yn edrych ymlaen at gael datblygu’r cyfleoedd economaidd hynny a fydd yn gwneud gwahaniaeth i sir Conwy a Gogledd Cymru gyfan. Rŵan mae’r gwaith caled yn dechrau, ac mae gennym ni gynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer y safle a fydd yn sicrhau ei ddyfodol yn ogystal ag yn ein galluogi ni, drwy ein cysylltiadau helaeth â buddsoddwyr a busnesau, i helpu cwmnïau entrepreneuraidd ac arloesol i ddefnyddio Bodlondeb fel canolbwynt i dyfu’r economi leol.”

Rhoddodd y Cynghorwyr eu cymeradwyaeth derfynol i symud yr holl wasanaethau swyddfa a democrataidd i un lleoliad yng Nghoed Pella yng nghyfarfod y Cyngor ar 5 Rhagfyr.

Mae’r cytundeb prydles yn golygu y bydd Quidos Investments Limited yn llofnodi prydles 250 mlynedd ar gyfer Bodlondeb ddiwedd Mai 2025.

Mae Nick Pritchard, Cyfarwyddwr Quidos Investments ac Ideas Forums, yn falch iawn o gael y cyfle hwn i ddod yn geidwad nesaf Bodlondeb, sef un o adeiladau harddaf Cymru mewn ardal o bwysigrwydd eithriadol yn ein hanes. 

Meddai: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y dyfodol ac at gael gwneud yr adeilad hwn yn ganolbwynt entrepreneuraidd ar gyfer Conwy a’r gymuned ehangach”. 

Os hoffech chi drafod syniadau posib neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu cartref newydd i’ch busnes yma, ewch i https://ideasinvest.scoreapp.com

Nid yw coetir Bodlondeb, y gofeb ryfel, y lawnt, y maes criced, y cyrtiau tennis na’r maes chwarae i blant wedi’u cynnwys yn y brydles, a byddant yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio. 

Gellir dechrau ar y gwaith o ad-drefnu’r ystafelloedd yng Nghoed Pella bellach, i wneud lle i Siambr y Cyngor, y canolbwynt democrataidd ac i’r gwasanaethau eraill sy’n mudo yno.

 

Nodiadau Esboniadol:

Mae Cytundeb Prydles yn gontract rhwng dau (neu fwy) o bartïon i lunio prydles. Bydd y cytundeb yn gosod rhwymedigaeth dan gontract ar y ddwy ochr i lunio’r brydles, naill ai ar ddyddiad penodol yn y dyfodol neu’n dilyn bodloni amodau a nodir yn y cytundeb.

Mae Quidos Investments Ltd yn eiddo i Nick Pritchard, un o gyfarwyddwyr Ideas Forums Ltd. Ideas Forums Ltd fydd yn gyfrifol am reoli datblygiad Bodlondeb fel canolfan fusnes mewn cytundeb â Quidos.

Wedi ei bostio ar 05/02/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?