Ymgynghoriad ynghylch y Polisi Addasiadau Drafft
Mae’r cyngor wedi diweddaru ei Bolisi Addasiadau ac yn gwahodd pobl i roi sylwadau.
Os oes gennych anabledd, addasiad yw math o newid neu ddarn o gyfarpar, sy’n ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i chi aros yn eich cartref.
Mae addasiadau’n amrywio yn ôl anghenion y person, o ganllaw cydio syml neu gymorth i fynd i mewn ac allan o’r bath, i ychwanegu mwy o le at eich cartref.
Mae’r polisi draft hwn yn nodi sut caiff addasiadau eu hariannu a sut mae’r broses ymgeisio yn gweithio.
Edrychwch ar y polisi drafft a llenwch ein holiadur cyn 15 Rhagfyr.
Ymgynghoriad ynghylch y Polisi Addasiadau Drafft 2023 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 04/12/2023