Aelod Cabinet Conwy yn erfyn am gefnogaeth gymunedol yn erbyn fandaliaeth
CCBC Shelter pic 2 - cropped
Difrod i’r llochesi newydd
Mae Aelod Cabinet Economi Cynaliadwy, y Cyng. Nigel Smith, yn erfyn ar y cyhoedd i gysylltu a rhoi gwybodaeth am fandaliaeth, yn dilyn nifer o achosion ar Bromenâd Llandudno. Mae difrod wedi ei achosi i’r llochesi newydd sbon, safleoedd posteri Colofn Morris, a thu mewn i Venue Cymru ble mae fandaliaid wedi difrodi teledu a rhoi graffiti ar y waliau.
Dywedodd y Cynghorydd Smith: “Rwyf wedi fy nhristáu ac yn siomedig gyda’r achosion o fandaliaeth ar y promenâd yn Llandudno.
“Cawsom arian allanol i osod saith lloches newydd ar hyd Promenâd Llandudno gyda strwythurau newydd sbon i ymwelwyr a phreswylwyr yn yr ardal eu mwynhau. Yn anffodus, ers Gorffennaf 2024, mae bob un ond un o’r llochesi newydd wedi eu fandaleiddio, weithiau dro ar ôl tro.
“Bydd trwsio’r difrod yn costio tua £16,000 ac mae hynny yn arian a allai fod wedi ei ddefnyddio ar rywbeth arall, nid yw’n dderbyniol ar gyfer y gymuned leol nac ymwelwyr i orfod dioddef y difrod direswm hwn ar hyd Promenâd Llandudno,
“Mae fandaliaid hefyd wedi torri fframiau ar safleoedd poster Colofn Morris, wedi mynd i mewn i Venue Cymru, difrodi teledu a sgriblo ar y waliau. Rhaid trwsio ac ymdrin â hyn i gyd, gan gymryd arian unwaith eto oddi wrth bethau eraill.
“Mae gennym luniau TCC o’r ardal a hysbyswyd yr heddlu ynglŷn â’r holl ddigwyddiadau. Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau hyn byddwn yn erfyn arnynt i gysylltu trwy ffonio 101 (gan nodi cyfeirnod trosedd 24000995670 ar gyfer y llochesi neu 25000077958 ar gyfer y Colofnau Morris) neu anfon e-bost at y tîm Twristiaeth ar twristiaeth@conwy.gov.uk ”
Wedi ei bostio ar 03/02/2025