Conwy'n cefnogi ymwybyddiaeth diogelu
Mae’n Wythnos Genedlaethol Diogelu, gyda sefydliadau ar draws Cymru yn gweithio i godi proffil y mater cenedlaethol a phwysig hwn.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi’r digwyddiad ac yn rhannu’r neges i gynghorwyr a staff pob gwasanaeth i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o arwyddion mater diogelu, eu dyletswydd i roi gwybod am bryderon a sut i wneud hynny.
Fel rhan o waith Conwy ar y mater pwysig hwn, mae’r Cyngor wedi ymestyn ei ddigwyddiadau i bythefnos o seminarau a hyfforddiant.
Meddai’r Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu, “Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth ddiogelu oedolion a phlant diamddiffyn. Mae'r bythefnos yma’n gyfle i ni gyd ddod at ein gilydd i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelu pwysig.”
I ddysgu mwy am ddiogelu ewch i www.bwrdddiogelugogleddcymru.cymru
Wedi ei bostio ar 13/11/2023