Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cynghorwyr yn trafod dyfodol Bodlondeb

Cynghorwyr yn trafod dyfodol Bodlondeb


Summary (optional)
start content

Cynghorwyr yn trafod dyfodol Bodlondeb

Cyflwynwyd yr adroddiad diweddaraf ar waredu swyddfeydd Bodlondeb i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau yr wythnos ddiwethaf a bydd yn cael ei roi gerbron y Cabinet ar 13/08/24.

Llynedd fe benderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio un prif swyddfa (Coed Pella yn unig).

Fel rhan o’r gwaith yma, ym mis Mawrth, gwahoddodd y Cyngor ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer swyddfeydd Bodlondeb ac yna ym mis Mai estynnwyd gwahoddiad i dendro.

Mae’r canlyniadau rŵan yn cael eu hadrodd i’r cynghorwyr, a fydd yn penderfynu cymeradwyo dull un swyddfa ai peidio, a dewis y cynigydd a ffafrir ar gyfer adeilad Bodlondeb.

Meddai’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: “Rydym ni wedi ymgysylltu â’r farchnad i ganfod cyfle cynaliadwy ar gyfer y safle a thref Conwy.  Mae’n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y penderfyniad cywir. 

“Mae’n rhaid i ni leihau ein costau refeniw, gwneud y defnydd gorau o’n hasedau, lleihau ein hallyriadau carbon, osgoi costau atgyweirio a chynnal a chadw sylweddol, a chreu cyfle ar gyfer datblygiad economaidd. 

“Bydd ar gynghorwyr angen ystyried y wybodaeth yn ofalus a chytuno ar y camau nesaf.” 

Os caiff yr adroddiad a’r argymhellion eu cymeradwyo, mae’n debyg y bydd y cynigydd a ffafrir yn cael ei gyhoeddi’n ffurfiol ddiwedd mis Awst ar ôl cwblhau’r prosesau cyfreithiol angenrheidiol.

 

Wedi ei bostio ar 31/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?