Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb ar gyfer Swyddfeydd Bodlondeb

Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb ar gyfer Swyddfeydd Bodlondeb


Summary (optional)
start content

Gwahoddiad i Fynegi Diddordeb ar gyfer Swyddfeydd Bodlondeb

Mae Swyddfa Bodlondeb yng Nghonwy yn cael ei hysbysebu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn cael syniad o’r diddordeb yn yr eiddo.

Mae’r Cyngor yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan ddatblygwyr a deiliaid. 

Cymeradwyodd y Cynghorwyr Ran 2 o Strategaeth Gofod Swyddfa y llynedd a chytunwyd y byddai Achos Busnes Llawn yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys manylion costau ac arbedion posibl, ar gyfer adleoli holl wasanaethau swyddfa’r Cyngor i Goed Pella ym Mae Colwyn.

Fel rhan o’r broses honno, mae Swyddfa Bodlondeb yn Ffordd Bangor yng Nghonwy wedi cael ei nodi i fod yn addas ar gyfer ailddatblygu trwy brydles hir. 

Erbyn hyn mae’r Cyngor yn gallu hysbysebu’r adeilad ar y farchnad eiddo.

Wedi’i leoli o fewn coetir a pharc cyhoeddus sefydledig, gall yr eiddo ddarparu cyfle ar gyfer gwesty neu ddefnydd hamdden tebyg.

Dywedodd y Cyng. Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Cynaliadwy: “Rydym yn ymgysylltu â’r farchnad i sicrhau bod y cyfle mwyaf cynaliadwy yn dod i’r safle ac felly i dref Conwy.”

“Rydym angen profi’r farchnad er mwyn edrych ar yr holl ddewisiadau, ond mae’n bwysig nodi nad ydym yn chwilio am unrhyw gynigion ffurfiol ar y cam hwn. 

Ychwanegodd y Cyng. Smith: “Hoffwn hefyd sicrhau’r gymuned leol nad yw’r coetir, cofeb rhyfel, cae criced, cyrtiau tennis ac ardal chwarae plant yn rhan o’r cynnig hwn.

Bydd mynediad i’r cyhoedd hefyd yn cael ei gynnal mewn ardaloedd penodol sydd o fewn y safle a gynigir.

Mae’r broses gychwynnol yn cynnwys gwahodd mynegiannau o ddiddordeb; trafodaethau anffurfiol gyda’r partïon â diddordeb er mwyn dysgu mwy am eu cynigion; a dod o hyd i gyfleoedd a phroblemau. Mae Avison Young yn gweithredu ar ran y Cyngor.

Bydd yr adborth yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Prosiect, a bydd yn helpu siapio cam nesaf y broses a’r dogfennau Gwahoddiad i Dendro.

 

 

Wedi ei bostio ar 05/03/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?