Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymerwch ran


Summary (optional)
start content

Cymerwch ran

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n gofyn i bobl pa wasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw a’u cymunedau.

Mae Cynghorau ar draws y DU yn wynebu costau cynyddol a galw cynyddol am wasanaethau, a hynny oherwydd yr argyfwng costau byw, prisiau tanwydd ac ynni, cyfraddau llog ac effaith barhaus y pandemig. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn amcangyfrif y bydd darparu gwasanaethau dydd i dydd rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, gan gynnwys ysgolion, gofal cymdeithasol, casgliadau gwastraff, canolfannau hamdden a llawer mwy, yn costio £30 miliwn ychwanegol.

Yn union fel pob Cyngor arall mae’n rhaid i Gonwy gipio pob cyfle i ddefnyddio ei arian yn fwy effeithiol, i leihau costau ac, yn anffodus, mae’n bosibl y bydd hyn yn arwain at leihau lefel y gwasanaethau a ddarperir ganddo.

Meddai’r Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: Gwyddom y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn i bennu cyllideb 2024/25 i sicrhau bod ein hadnoddau prin yn cael eu blaenoriaethu a bod arian yn cael ei gyfeirio at y meysydd sydd ei angen fwyaf.

“O ran gwneud penderfyniadau mewn perthynas â chyllid y flwyddyn nesaf, gallai eich mewnbwn ein helpu i siapio cyllideb a fydd yn adlewyrchu blaenoriaethau cymunedau.

“Byddwn yn annog pawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghonwy i gael golwg ar y wybodaeth yr ydym wedi’i rhoi at ei gilydd am y sefyllfa ariannol, a rhoi gwybod i ni pa wasanaethau sydd bwysicaf i chi a’ch cymuned leol.”

Gellir dod o hyd i’r manylion llawn a’r arolwg ar wefan Conwy: www.conwy.gov.uk/dweudeichdweud

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur yng Nghoed Pella neu yn eich llyfrgell leol.

Cyflwynwch eich adborth erbyn 2 Chwefror 2024 os gwelwch yn dda.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno i Gynghorwyr fis nesaf i lywio eu trafodaethau pennu cyllideb.

Wedi ei bostio ar 08/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?