Cyllid Prosiectau Diwylliannol Ffyniant Bro
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Venue Cymru’n cael £10 miliwn fel rhan o gyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau diwylliannol o bwys cenedlaethol ledled Prydain.
Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey: “Rydym yn falch iawn fod cynlluniau Venue Cymru i ddarparu cyfleusterau gwell wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth y DU fel prosiect o bwys cenedlaethol. Mae’r celfyddydau a diwylliant yn bwysig iawn o ran darparu effaith economaidd gadarnhaol ac wrth gefnogi lles ein cymunedau. Mae Venue Cymru’n croesawu ymwelwyr o’r DU ac yn rhyngwladol bob blwyddyn, gan ddarparu dros £30 miliwn mewn budd economaidd i fusnesau lleol, yn ogystal â chynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol cyffrous i ymwelwyr a’r gymuned leol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU dros yr wythnosau nesaf i ddeall manylion y cynnig a symud y prosiect ymlaen i’r cam nesaf.”
Mwy o wybodaeth: Prosiectau Diwylliannol Ffyniant Bro: nodyn methodoleg - GOV.UK (www.gov.uk)
Wedi ei bostio ar 07/03/2024