Ymgynghoriad ynghylch oriau agor llyfrgelloedd
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy yn gofyn am ganiatâd gan gynghorwyr i ymgynghori fel rhan o adolygiad o oriau agor llyfrgelloedd.
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle a’r Cabinet yn penderfynu a ddylid cymeradwyo cynnal ymgynghoriad gyda’r cyhoedd.
Mae’n rhaid i bob gwasanaeth y Cyngor ganfod arbedion ariannol ar gyfer 2024/25, yn cynnwys y Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Mae cyllideb y Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi’i lleihau pob blwyddyn ers 2009, ac erbyn hyn nid oes modd dod o hyd i arbedion heb newid y ffordd o ddarparu’r gwasanaeth.
Meddai’r Cyng. Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden: “Rydym ni’n wynebu dewis anodd sy’n golygu lleihau oriau agor pob llyfrgell neu i gau nifer o safleoedd.
“Os yw’r sefyllfa ariannol yn gwella yna rydym ni’n gobeithio gallu cynyddu’r oriau agor eto, ond os yw llyfrgell yn cael ei chau yna mae’n anodd iawn ei hailagor. Gyda hynny mewn golwg, rydym ni’n cyflwyno tri dewis i gwsmeriaid ystyried, yn seiliedig ar leihau oriau agor i atal cau llyfrgelloedd, ac i helpu’r gwasanaeth gynllunio at y dyfodol.”
Os yw’r Cynghorwyr yn cytuno â’r ymgynghoriad, bydd y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn gofyn i bobl beth yw eu barn am y tri dewis.
Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn agor ganol mis Chwefror, a bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno i’r Cynghorwyr er mwyn gwneud penderfyniad ym mis Mehefin cyn gweithredu yn yr haf 2024.
31/01/2024 Pwyllgor Craffu Economi a Lle
Dolen i adroddiad y pwyllgor: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle Dydd Mercher 31 Ionawr 2024, 5.30 pm
13/02/2023 Cabinet
Dolen i adroddiad y pwyllgor: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 13 Chwefror 2024, 2.00 pm
Wedi ei bostio ar 25/01/2024