Ymateb Aml-Asiantaeth i Storm Darragh
Yn dilyn Rhybudd Coch y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryf iawn a Rhybuddion Oren Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd, mae timau aml-asiantaeth Gogledd Cymru yn gweithio’n ddiflino i amddiffyn cymunedau a lleihau unrhyw effeithiau posib #StormDarragh y penwythnos hwn.
Dywedodd Uwch-arolygydd Owain Llewellyn: "Diogelwch ein trigolion yw ein prif flaenoriaeth. Disgwylir i Storm Darragh ddod â gwyntoedd eithriadol o gryf o 3am i 11am ddydd Sadwrn, gan beri bygythiad posibl i fywyd, ynghyd â risgiau sylweddol o lifogydd mewn rhai ardaloedd.
“Rydym yn annog pawb i gymryd y rhybuddion hyn o ddifrif, osgoi teithio diangen yn ystod y cyfnod hwn a dilyn pob cyngor swyddogol i gadw’n ddiogel.
“Hyd yn oed os nad ydych chi mewn ardal sydd wedi’i heffeithio gan y rhybudd coch am wyntoedd cryfion mae’r rhybudd oren am lifogydd hefyd yn arwyddocaol ac yn effeithio ar y rhan fwyaf o Ogledd Cymru.
“Trwy gydweithio a dilyn canllawiau swyddogol, gallwn helpu i sicrhau diogelwch pawb yn ystod #StormDarragh.”
Mae asiantaethau Gogledd Cymru yn cydweithio i:
- Cydlynu ymdrechion rhwng y gwasanaethau brys, cynghorau lleol, a Chyfoeth Naturiol Cymru.
- Paratoi unrhyw amddiffynfeydd llifogydd allweddol ac archwilio seilwaith hanfodol i leihau'r risg o ddifrod.
- Sicrhau bod cefnogaeth ar gael i drigolion bregus.
Parhaodd yr Uwch-arolygydd Llewellyn: “Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod cynlluniau cadarn ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw heriau a ddaw yn sgil y tywydd garw hwn. Fodd bynnag, rydym hefyd angen eich help i aros yn ddiogel:
- Arhoswch dan do ac osgoi teithio yn ystod cyfnod y Rhybudd Coch oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
- Sicrhewch unrhyw eitemau rhydd y tu allan i'ch eiddo a allai achosi risg mewn gwyntoedd cryfion.
- Dilynwch y wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy.”
Ble i ddod o hyd i Wybodaeth a Chyngor:
Cadwch yn ddiogel a gwyliwch am ddiweddariadau pellach #StormDarragh ar gyfryngau cymdeithasol gan:
Byddwch #YmwybodolO’rTywydd a #cymrwchofal - gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ymlaen llaw cyn teithio ac ystyriwch a yw eich taith yn hanfodol ai peidio.
Wedi ei bostio ar 06/12/2024