Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion October is Black History Month

Mae Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon


Summary (optional)
start content

Mae Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle i gydnabod a dathlu cyfraniadau pobl Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, nawr ac yn y gorffennol. Y thema eleni yw Adennill Naratifau.

Mae ein hanes lleol yn adrodd cryn stori am ymfudiadau i mewn ac allan, sy’n ffurfio’r Conwy a welwn heddiw. Mae’r mis hwn yn ein hatgoffa o’r angen i fyfyrio ac ystyried ein hymdrechion unigol ac ar y cyd o ran creu cymdeithas wrth-hiliol a chreu cymuned gadarn a chynhwysol yng Nghonwy, y gall pawb elwa ohoni.

Cyn Mis Hanes Pobl Dduon, rydym wedi bod yn siarad ag ystod o arweinwyr addysgol lleol ynghylch pwysigrwydd Mis Hanes Pobl Dduon a’r thema Adennill Naratifau. Gan ddechrau’r mis hwn, gwnewch ymrwymiad am y flwyddyn gyfan i archwilio a mwynhau’r storïau heb eu hadrodd sy’n rhan o’nstori.

Dr Marian Gwyn, Ymgynghorydd Treftadaeth a Chydlynydd Rhanbarthol Gogledd Cymru, Cyngor Hil Cymru

“Yn ogystal â chyfle i fyfyrio ar ein hanes cyffredin - mae Mis Hanes Pobl Dduon hefyd yn gyfle i ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth o naratifau o Gymru, nawr ac yn y gorffennol.  Mae’r thema eleni, ‘Adennill Naratifau’ yn taflu goleuni ar storïau ffigyrau adnabyddus na roddwyd sylw iddynt o’r blaen. Drwy archwilio’r storïau hyn, rydym wedi dod o hyd i drysorau cudd, sydd wedi ehangu ein dealltwriaeth o dapestri bywiog ein cymunedau.  Mae coffáu Mis Hanes Pobl Dduon yn rhoi cyfle i ni ddysgu, cysylltu a rhannu mewn ffyrdd cyffrous ac ystyrlon”

Beth am ymweld ag arddangosfa AIL-DDYCHMYGU’R Tŷ Congo/ Y Sefydliad Affricanaidd, sydd i’w gweld yn Llyfrgell Bae Colwyn ar hyn o bryd, gan archwilio ac ail-ddychmygu hanes Tŷ’r Congo/ Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn.

Ms Amy Grimward, Ysgol Aberconwy ac enillydd gwobr Betty Campbell (MBE) yn 2024: 

“Mae dathlu Mis Hanes Pobl Dduon gydag arddangosfa fel Pobl Fel Ni, sy’n amlygu pa mor bwysig yw rhannu ac arddangos hanes diwylliannol Cymru, yn ffordd wych. Roeddwn yn hynod ddiolchgar i ennill gwobr Betty Campbell (MBE) yn gynharach eleni am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; ond yn fwy na hynny, er mwyn tynnu sylw at Wobrau Addysgu Cymru am gynnwys y categori hwn.

Yn ogystal â dathlu llwyddiannau Betty Campbell - y Brifathrawes Groenddu gyntaf yng Nghymru - mae hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw darparu addysg wrth-hiliol, lle caiff pob llais a hanes eu clywed a’u gwerthfawrogi. Rwy’n credu’n gryf y bydd modd cyflawni cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030; un cam mawr tuag at gyflawni hyn yw darparu addysg sy’n cynnig cynrychiolaeth lawn o hanesion amrywiol Cymru a’r byd ehangach, ac sy’n sicrhau diogelwch a pharch i bawb. Fel addysgwyr, mae’n ddyletswydd arnom i fynnu dyfodol cyfiawn ar gyfer y genhedlaeth nesaf, ac felly mae angen i bob un ohonom ymrwymo i fod yn gynghreiriaid gweithredol”

Mae Storïau wedi’u Pwytho o arddangosfa Pobl Fel Ni i’w gweld yn nerbynfa Coed Pella ar hyn o bryd. Ychwanegodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy’n rhannu arddangosfa Pobl Fel Ni gyda ni:

Byddai sawl un yn awgrymu nad yw hiliaeth yn broblem yn ein cymuned,ond nid dyma brofiad bywyd pobl o hil leiafrifiedig. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gydweithio gyda CBSC ac asiantaethau eraill er mwyn meithrin a chynnal Conwy gynhwysol a bywiog- cymuned sy’n cydnabod ac yn dathlu ei hamrywiaeth ethnig, lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel, a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Fel y dywedodd ein Prif Weinidog yn ddiweddar, “nid oes yna le i fodloni yng Nghymru”

Yn ddiweddar, arweiniwyd gweithgor gan yr Athro Charlotte Williams OBE, FLSW, ar wella sut mae themâu a phrofiadau yn ymwneud â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn cael eu haddysgu ar draws pob rhan o’r cwricwlwm mewn ysgolion (sydd bellach yn rhan o’r Cwricwlwm i Gymru):

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n hyderus i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Mae hyn yn dibynnu ar weithredoedd pob un ohonom wrth weithio tuag at y nod hwn. Gall y pethau bach ddatblygu’n bethau mawr. Mae ein gweithredoedd bychain dyddiol a syniadau newydd ynghylch sut i wneud pethau yn bwysig. Gadewch i ni gyd fynd ati i wneud gwahaniaeth”

I gael rhagor o wybodaeth am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030, gweler: Cymru Wrth-hiliol: cefndir | LLYW.CYMRU

Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn gweithio gyda Rukhsana Nugent (Ymgynghorydd Hyfforddiant Rheoli ac Amrywiaeth Ryngwladol), er mwyn dechrau darparu hyfforddiant cychwynnol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant: 

“Mae’n fraint cael bod ar y siwrnai gyda Chyngor Conwy i wneud newidiadau sylweddol a deall effaith diwylliant a threftadaeth pobl dduon.  Gadewch i ni gydweithio er mwyn gwireddu cydraddoldeb”

I gael rhagor o wybodaeth am Fis Hanes Pobl Dduon, dilynwch y dolenni isod:

 

Cydraddoldeb ac amrywiaeth - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Wedi ei bostio ar 04/10/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?