Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwaith partneriaeth i nodi camgysylltiadau mewn pibelli dŵr gwastraff

Gwaith partneriaeth i nodi camgysylltiadau mewn pibelli dŵr gwastraff


Summary (optional)
start content

Gwaith partneriaeth i nodi camgysylltiadau mewn pibelli dŵr gwastraff

Mae gwaith yn mynd rhagddo i wella ansawdd dŵr ymdrochi drwy wirio’r pibelli draenio yn Llandudno. 

Mae Swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn ymweld â chartrefi yn ardal Craig y Don i wirio cysylltiadau dŵr gwastraff a dŵr wyneb.  

Hyd yma, ymwelwyd â 120 o gartrefi a nodwyd 18 o broblemau megis rhwystrau mewn pibelli dŵr gwastraff, camgysylltiadau mewn sinciau cegin a diffygion mewn pibelli dŵr gwastraff.  

Mae gan gartrefi ddau gysylltiad carthffos ar wahân - un ar gyfer dŵr gwastraff sy’n mynd i’r gweithfeydd carthion i gael eu trin ac un ar gyfer dŵr wyneb sy’n cario dŵr glân allan i’r môr. 

Mae’r gwaith yn anelu at wella ansawdd dŵr ymdrochi yn Nhraeth y Gogledd, Llandudno drwy sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag unrhyw gamgysylltiadau mewn pibelli dŵr gwastraff neu unrhyw broblemau eraill er mwyn atal bacteria megis E.coli ac Enterococci’r Coluddion rhag cyrraedd y môr. 

Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau’r Cyngor: “Rydym yn gweithio â Dŵr Cymru a CNC i godi ymwybyddiaeth am broblemau mewn perthynas â chamgysylltiadau. 
“Mae dŵr gwastraff o gawodydd, toiledau, sinciau, peiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri’n cynnwys bacteria a chemegau sy’n cael effaith ar ansawdd y dŵr.   Pan fydd y dŵr gwastraff hwn yn cyrraedd y garthffos dŵr wyneb, a elwir yn gamgysylltiad, mae’n achosi llygredd yn y môr.  
“Mae’r mwyafrif o gamgysylltiadau’n digwydd ar gamgymeriad, felly byddwn yn annog unrhyw un sy’n gosod teclyn neu gysylltiad newydd i sicrhau eu bod yn gwneud hynny’n briodol.”

Yn ystod yr ymweliadau, mae swyddogion wedi bod yn archwilio tyllau caead ac yn defnyddio lliwur i sicrhau fod y dŵr gwastraff wedi’i gysylltu â’r bibell gywir drwy ddraenio toiledau neu redeg tapiau.

Meddai Gareth Williams, Technegydd Atal Llygredd Dŵr Cymru: “Mae camgysylltiadau mewn pibelli’n gallu achosi llygredd mewn afonydd a thraethau lleol, felly mae’n bwysig i ni atal a chodi ymwybyddiaeth am gamgysylltiadau gyda’n cwsmeriaid a’n busnesau.  Drwy gydweithio â’r awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â chamgysyltliadau, gallwn helpu i ddiogelu’r amgylchedd lleol a gwella dŵr ymdrochi o amgylch ardal Llandudno.  Os bydd cwsmeriaid yn amau bod camgysylltiad yn eu heiddo neu’n sylwi ar achos o lygredd, cysylltwch â ni ar 0800 0853968.” 

Bydd ymweliadau pellach yn cael eu cynnal yn yr ardal dros y misoedd nesaf i barhau i godi ymwybyddiaeth.  

Meddai Cathrine Kiely, aelod o Dîm Amgylchedd Conwy CNC:  “Fel rheolwyr amgylcheddol Cymru, rydym yn chwarae rhan lawn yn y broses o weithio tuag at atal llygredd a gwella ansawdd dŵr, gan ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ni. 
“Mae’r bartneriaeth hon yn helpu i gyflawni hynny drwy ganfod camgysylltiadau a sicrhau eu bod yn cael eu hatgyweirio gan ddeiliad y tŷ, sy’n helpu i wella ansawdd y dŵr ymdrochi yn yr ardal.” 

Gall aelodau’r cyhoedd hefyd wirio eu heiddo eu hunain drwy sicrhau fod ganddynt y cysylltiadau cywir ar gyfer dŵr gwastraff a dŵr wyneb, fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd arnynt angen plymwr i helpu gyda hyn.
Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn eiddo sydd wedi cael eu hymestyn neu lle cwblhawyd unrhyw waith adeiladu arall sydd wedi addasu’r system ddraenio wreiddiol. 
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â regulatory.services@conwy.gov.uk neu 01492 575222.

 

 

Wedi ei bostio ar 30/10/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?