Llwybrau at Gynllunio
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o fod yn rhan o raglen beilot arloesol, sy’n recriwtio graddedigion i Adrannau Cynllunio cynghorau lleol.
Dewiswyd Conwy fel un o bedwar awdurdod lleol yng Nghymru i gymryd rhan yn y rhaglen ‘Llwybrau at Gynllunio’ gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Mae’r cynllun yn cynnig swydd i unigolion sydd wedi graddio’n ddiweddar mewn adrannau cynllunio llywodraeth leol, i ennill cymwysterau a phrofiad gwerthfawr.
Bydd unigolyn graddedig yn ymuno â Chonwy ar gontract tair blynedd a bydd yn cael profiad ymarferol wrth astudio am radd Meistr wedi’i hachredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI). Darparwyd cyllid ar gyfer y rhaglen beilot gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cyn iddynt gael eu cyfweld gan y Cyngor, roedd yr ymgeiswyr eisoes wedi bod drwy broses recriwtio drylwyr, gydag 850 o ymgeiswyr yn gwneud cais am swyddi yng Nghymru a Lloegr.
Meddai’r Cynghorydd Emily Owen, Aelod Cabinet Conwy sydd â chyfrifoldeb am Gynllunio: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen beilot hon. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i unigolyn graddedig ennill sgiliau a phrofiad hanfodol, wrth weithio yn ein tîm cynllunio a helpu i fynd i’r afael â’r heriau cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau cynllunio.”
Rhagor o wybodaeth am y cynllun Llwybrau at Gynllunio: Llwybrau at Gynllunio | Cymdeithas Llywodraeth Leol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i ddatblygu llwybrau gyrfa i weithwyr – boed hynny ar gyfer graddedigion neu unigolion sy’n gadael yr ysgol. Gall y pecynnau gynnwys rhaglenni sy’n cynnig profiad a hyfforddiant, a chyfleoedd i weld llwybr pendant o ran dilyniant gyrfa. I gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ewch i: www.conwy.gov.uk/swyddi
Wedi ei bostio ar 06/11/2024