Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Diweddariad Toiledau Cyhoeddus

Diweddariad Toiledau Cyhoeddus


Summary (optional)
start content

Diweddariad Toiledau Cyhoeddus

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi y bydd mwy o doiledau cyhoeddus yn aros ar agor dros y gaeaf diolch i nawdd gan Gynghorau Tref a Chymuned.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi’r rhestr o doiledau cyhoeddus a fydd yn cau ar 14 Hydref.

Bydd ugain o doiledau cyhoeddus yn aros ar agor yn y sir dros y gaeaf, a phedwar arall ar agor rhwng y Pasg a mis Medi nesaf.

Meddai’r Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau: “Mae cau toiledau’n benderfyniad anodd i ni ond mae’n rhaid i bob un o wasanaethau’r Cyngor ddod o hyd i arbedion ariannol sylweddol ar gyfer 2024/25. Does gennym ni ddim bellach y gyllideb i gynnal toiledau cyhoeddus ac mae’n rhaid inni adennill y costau gweithredu drwy gael noddwyr a chodi tâl ar bobl am eu defnyddio nhw.

“Rydw i’n ddiolchgar am y gefnogaeth gan Gynghorau Tref a Chymuned sy’n golygu bod modd inni gadw mwy o doiledau ar agor y gaeaf hwn na’r nifer a gyhoeddwyd o’r blaen.”

Mae’r rhestr o doiledau sy’n cau ar 14 Hydref 2024 yn cynnwys nifer sydd eisoes yn segur oherwydd fandaliaeth barhaus, fel Ffordd Maelgwyn yng Nghyffordd Llandudno ac Ivy Street ym Mae Colwyn.

Ers mis Gorffennaf, mae’r cyhoedd wedi gallu defnyddio toiledau yn adeiladau’r Cyngor fel swyddfeydd, canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, hyd yn oed os nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau eraill yn yr adeilad.

Mae toiledau eraill ar gael trwy Gynllun Toiledau Cymunedol y Cyngor, lle mae busnesau cymeradwy yn caniatáu'r cyhoedd i ddefnyddio eu cyfleusterau heb orfod prynu dim.

Hefyd mae pump o doiledau cyhoeddus a reolir gan Gynghorau Tref a Chymuned ym Mhenmachno, Dolwyddelan, Llanfairfechan, Llansannan a Llangernyw, ac ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rheiny.

Mae Cyngor Tref Abergele, Cyngor Tref Bae Colwyn, Cyngor Tref Conwy, Cyngor Tref Llandudno, Cyngor Cymuned Llanfair Talhaearn a Chyngor Cymuned Trefriw yn darparu nawdd i gadw’r toiledau ar agor yn eu hardaloedd hwy hyd ddiwedd Mawrth 2025.

Mwy o wybodaeth: Toiledau cyhoeddus yn sir Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 11/10/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?