Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Road resurfacing: A547, Conway Road, Llandudno Junction

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: A547, Conway Road, Cyffordd Llandudno


Summary (optional)
start content

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: A547, Conway Road, Cyffordd Llandudno

Gwaith yn dechrau: 18 Tachwedd 2024

Gwaith yn dod i ben: 4 Rhagfyr 2024 (yn dibynnu ar y tywydd)

Beth sy’n digwydd?

Rydym yn gosod wyneb newydd ar ran o’r A547, Conway Road, yng Nghyffordd Llandudno, o’r gylchfan fach ar Ferndale Road at y gyffordd â Phenrhos Avenue.

Bydd ein contractwyr yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn ystod y dydd rhwng 7.30am a 5.30pm, a bydd traffig yn cael ei dywys mewn confoi drwy’r safle.

Bydd y gwaith o osod wyneb newydd yn digwydd yn ystod y nos rhwng 6pm a 2am ddydd Iau a dydd Gwener, 28-29 Tachwedd. Bydd ffyrdd ymyl yn cau am ychydig pan fydd y gwaith hwn yn cael ei wneud, ac efallai y bydd oedi ar y brif ffordd.

A fydd hyn yn effeithio ar barcio?

Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.  Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.

A fydd hyn yn effeithio ar ddanfon nwyddau?

Rydym eisiau tarfu cyn lleied â phosibl ar eich gweithrediadau. Os ydych chi’n disgwyl i nwyddau gael eu danfon tra bydd ein contractwyr yn gweithio, rhowch wybod i ni pa ddyddiau ac amseroedd rydych chi’n disgwyl i’r nwyddau gael eu danfon. Gellwch wneud hyn drwy anfon e-bost at affch@conwy.gov.uk . Rhowch gymaint o rybudd i ni ag y gellwch er mwyn i ni geisio gwneud trefniadau priodol.

Beth yw rhoi wyneb newydd?

Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)

Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau

Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol

Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu

Cam 5 – gosod yr wyneb newydd

Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri

Cam 7 – ailbaentio’r marciau ffordd

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn gallu bod yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.

Cwestiynau?

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Wedi ei bostio ar 12/11/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?