Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Routes revealed for opening stages of 2024 Tour of Britain Women

Datgelu llwybrau ar gyfer cymalau agoriadol Taith Prydain i Ferched 2024


Summary (optional)
start content

Datgelu llwybrau ar gyfer cymalau agoriadol Taith Prydain i Ferched 2024

Cyhoeddiad gan: Tour of Britain Women 2024

Heddiw gallwn gyhoeddi’r llwybrau ar gyfer dau gymal agoriadol Taith Prydain i Ferched 2024 yng Nghymru, cyn yr Ymadawiad Fawr yn y Trallwng mewn 34 diwrnod.

Bydd y cymalau agoriadol yn gweld rhai o brif reidwyr y byd yn herio rhai o ffyrdd a dringfeydd mwyaf eiconig Cymru, gan ragweld miloedd yn dod i’r strydoedd i groesawu’r ras.

Cymal 1: Y Trallwng - Llandudno (142.5km, 2,276m o ddringo)

Gan adael Broad Street, Y Trallwng yng nghalon canolbarth Cymru, bydd y reidwyr yn wynebu cymal agoriadol heriol, gyda 2,276m o ddringo i’w drechu. Bydd y cymal hefyd yn cynnwys un darn sbrint a dau ddarn Brenhines y Mynyddoedd.

Gan wneud eu ffordd allan o Aberriw, bydd y peloton yn wynebu dringfa heriol Llangynog ar y marc 65km, a enwir yn lleol fel Bwlch y Berwyn, sy’n 6km o hyd gyda graddiant cyfartalog o 5.4%.

Mae’r llwybr hefyd yn mynd heibio trefi marchnad Llanfyllin a’r Bala, gan gyffwrdd glannau eang Llyn Tegid, cyn pasio heibio pentref hardd Cerrigydrudion.

Mae cyfres o ddringfeydd nerthol gyda 10km i fynd, yn debygol o ddidoli’r criw wrth iddynt ddod i mewn i Landudno, gan basio heibio Castell Conwy cyn y diweddglo anhygoel ar y promenâd.

Bydd y cymal yn dechrau am 11:15, gan ragweld y bydd y reidwyr yn cyrraedd y llinell derfyn yn Llandudno am oddeutu 15:10.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, Cyngor Sir Powys: “Mae’n gyffrous fod Powys wedi cael ei ddewis i gynnal yr Ymadawiad Fawr o’r Trallwng ar gyfer Taith Prydain i Ferched eleni. Bydd yn gyfle gwych i breswylwyr ac ymwelwyr wylio rhai o brif feicwyr y byd wrth iddynt rasio trwy ogledd y sir ac i ni ddangos harddwch ein hamgylchedd naturiol i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol.”

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Conwy: “Rydym wrth ein boddau bod Conwy wedi cael ei ddewis i gynnal rhan o ddiwrnod cyntaf Taith Prydain i Ferched. Bydd y cystadleuwyr yn teithio drwy ein sir hardd, gan weld y golygfeydd mwyaf eiconig wrth deithio i’r gogledd ar gyfer diwedd y cymal yn Llandudno. Edrychwn ymlaen at y cyffro o weld y beicwyr penigamp yn cystadlu ar ein ffyrdd cyn sbrintio at y llinell derfyn. Eto, rwy’n falch bod digwyddiadau mawr fel hyn yn dod i’n Sir, yn cefnogi ein heconomi, ac yn ein dangos ni fel cyrchfan i’r byd ehangach.”

Cymal 2: Wrecsam - Wrecsam (140.2km, 1,570m o ddringo)

Bydd ail gymal y ras yn dechrau ac yn gorffen ar Stryt Caer yng nghanol dinas Wrecsam gan ymweld â golygfeydd godidog yn Sir Ddinbych, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, gydag un sbrint pellach a dau ddarn Brenhines y Mynyddoedd ar hyd y ffordd.

Bydd y peloton yn teithio tua’r gogledd, allan o Wrecsam, gan groesi i Orllewin Swydd Gaer ar ôl 20km, lle mae’r llwybr yn codi ar y cyd â Bryniau Peckforton Hill, rhan o Grib Canolbarth Swydd Gaer.

Yna bydd y llwybr yn croesi’n ôl i Wrecsam, gan fynd trwy bentrefi Bangor-Is-y-Coed ac Owrtyn, cyn y sbrint yn Johnstown. Yna bydd y ras yn parhau ar hyd darn godidog o Gamlas Llangollen.

Bydd llai o ddringo ar gyfer y reidwyr ar y cymal hwn, fodd bynnag disgwylir tyrfa fawr ar Fwlch yr Oernant, sy’n cyrraedd pwynt allweddol y cymal gyda thua 30km i fynd.

Bydd y llwybr dilynol i lawr yn golygu taith gyflym i mewn i Wrecsam ar gyfer diweddglo’r cymal a diwedd siwrnai’r ras yng Nghymru, gan basio heibio’r Mwynglawdd a Rhostyllen, cyn y daith fer yn ôl dros y ffin i Warrington ar gyfer cymal tri.

Bydd cymal dau yn dechrau am 11:15, gan ragweld y reidwyr yn dychwelyd i Wrecsam ar gyfer diwedd y cymal am oddeutu 15:15.

Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio Cyngor Wrecsam: “Unwaith eto, rwy’n falch iawn o weld digwyddiad o bwysigrwydd cenedlaethol megis Taith Prydain i Ferched yn cael ei gynnal yn Wrecsam, gan roi cyfle i bobl weld y seiclwyr proffesiynol mewn cystadleuaeth fawr.

“Bydd y ras yn rhoi cyfle i nifer o bobl weld a chefnogi’r reidwyr, a fydd yng nghanol y dref ar gyfer dechrau a diwedd y cymal neu wrth iddynt basio heibio ein cymunedau. Dewch draw i ddangos eich cefnogaeth a rhoi croeso cynnes Cymreig iddynt.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Ras Taith Prydain, Rod Ellingworth: “Trwy weithio gyda’n partneriaid rydym wedi gallu cynllunio dau gymal heriol a chyffrous iawn yng Nghymru i agor y ras, gyda rhai dringfeydd eiconig a chyfle ar gyfer sbrint hefyd.

“Roeddem eisiau i Daith Prydain i Ferched arddangos ffyrdd a golygfeydd gorau sydd gan Brydain i’w gynnig, ac ar ôl treulio llawer o amser yn gyrru ar hyd y llwybrau, rwyf yn sicr ein bod wedi darparu hynny.

“Mae cadarnhau’r llwybrau mewn amser byr wedi bod yn her a hanner, ac roedd hyn ond yn bosibl diolch i gefnogaeth ein cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n haeddu clod mawr am eu hymrwymiad i’r ras a beicio merched yn fwy eang.”

Taith Prydain i Ferched 2024:

Cymal 1 - Dydd Iau 6 Mehefin 2024: Y Trallwng i Landudno

Cymal 2 - Dydd Gwener 7 Mehefin 2024: Wrecsam

Cymal 3 - Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024: Warrington

Cymal 4 - Dydd Sadwrn 9 Mehefin 2024: Manceinion Fwyaf

 

Wedi ei bostio ar 03/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?