Glanhau strydoedd arbenigol
Rydym wedi dechrau gwaith glanhau strydoedd arbenigol yn y sir gydag arian a gafwyd gan Lywodraeth y DU.
Mae ein contractwr yn defnyddio peiriannau sgwrio pwysedd uchel, golchwyr chwistrell a deunyddiau glanhau sydd ddim yn niweidiol i’r amgylchedd i lanhau strydoedd Llanrwst, Abergele, Bae Cinmel, Towyn, a Chyffordd Llandudno (eisoes wedi’i gwblhau), a Chonwy, Bae Colwyn, Hen Golwyn, Llandrillo yn Rhos a Llandudno yn drylwyr. Bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen tan ddechrau mis Rhagfyr.
Cerbydau wedi’u parcio
Os ydych yn gwybod bod eich stryd chi ar fin cael ei glanhau peidiwch â pharcio eich car yno. Cyfrifoldeb y perchennog fydd cerbydau sy’n cael eu gadael yn yr ardaloedd sydd i gael eu glanhau. Ni all ein contractwyr warantu na fydd deunyddiau glanhau, baw neu ddŵr budr yn taro eich cerbyd yn ystod y broses.
Tarfu
Bydd y gwaith yn digwydd fin nos a gyda’r nos o XXpm to XXam, pan nad oes gymaint o draffig ar y ffyrdd. Rydym yn ymddiheuro os bydd sŵn y gwaith yn tarfu arnoch ond dim ond dros dro fydd hyn a bydd yn arwain at strydoedd glanach.
Hen Golwyn 30 & 31 Hydref 2024
- Cefn Road
- Abergele Road (Princess Rd i Ffordd yr Orsaf)
Llandrillo yn Rhos 31 Hydref - 1 Tachwedd 2024 a 3 - 6 Tachwedd 2024
- Rhodfa Penrhyn (Promenâd Rhos i Colwyn Avenue)
- Colwyn Avenue (Rhodfa Penrhyn i B5116)
- B5116 (Promenâd Rhos i Colwyn Avenue)
Conwy 6 - 8 Tachwedd 2024 a 10 - 11 Tachwedd 2024
- Town Ditch Road
- High Street
- Castle Street
- Rose Hill Street
Bae Colwyn 11 - 15 Tachwedd 2024
- Conway Road (Coed Pella Road i Sea View Road)
- Penrhyn Road
- Ffordd yr Orsaf
- Ardal i gerddwyr Canolfan Bay View
Llandudno 17 - 22 Tachwedd 2024, 24 – 29 Tachwedd a 1 - 6 Rhagfyr 2024
- Church Walks (North Parade i Mostyn Street)
- Mostyn Street
- North Parade
- Lloyd Street
- St George’s Parade
- Clonmel Street
- Trinity Square
- Vaughan Street
- Gerddi’r Gogledd Orllewin
Wedi ei bostio ar 31/10/2024