Datganiad ar yr adolygiad o'r terfyn cyflymder 20mya
Yn dilyn y cyngor yr wythnos ddiwethaf gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ynghylch yr adolygiad o’r terfyn cyflymder 20mya, dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
“Mae deddfwriaeth ddiweddar Llywodraeth Cymru i newid y terfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig o 30mya i 20mya yn newid sylweddol i bawb. O ganlyniad, fe fydd yn cymryd amser i ni ddod i arfer gyda hyn. Rydym wedi gwneud ambell i eithriad lleol, gan gadw’r terfyn cyflymder yn 30mya ar rai ffyrdd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi dweud o’r dechrau y byddai’n briodol adolygu’r eithriadau hyn yn dilyn y cyfnod ymsefydlu.
“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos hon y bydd yn adolygu’r canllawiau a’r meini prawf eithriadau a ddarparwyd i gynghorau. Yn amlwg, bydd yn rhaid i ni gymryd y rhain i ystyriaeth hefyd, ac felly ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol nes byddwn yn gwybod pa newidiadau fydd yn cael eu gwneud i’r meini prawf hyn.
“Yn y cyfamser, os bydd preswylydd yng Nghonwy’n teimlo y dylid newid y terfyn cyflymder ar ffordd arbennig o 20mya i 30mya, neu o 30mya i 20mya, gallant gysylltu â’n tîm Traffig. Gofynnwn iddynt ddarparu gymaint o wybodaeth a chyfiawnhad â phosibl, gan gynnwys pam nad yw’r terfyn cyflymder yn unol â’r canllawiau cyfredol gan Lywodraeth Cymru.
“Byddwn yn gwrando ar farn pob defnyddiwr ffordd - modurwyr, beicwyr a cherddwyr. Byddwn yn ystyried barn preswylwyr am y ffordd dan sylw o ran p’un a hoffent newid y terfyn cyflymder ar y ffordd lle maent yn byw yn arbennig.
“Yn yr un modd ag unrhyw newid i derfynau cyflymder, bydd yn rhaid cael Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Mae proses statudol ar gyfer ystyried ac ymgynghori ar wrthwynebiadau cyn gwneud penderfyniad terfynol.”
E-bost: traffig@conwy.gov.uk
Canllawiau terfynau cyflymder Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/pennu-eithriadau-ir-terfyn-cyflymder-diofyn-o-20mya-ar-ffyrdd-cyfyngedig-html
Wedi ei bostio ar 29/01/2024