Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Storm Darragh 09/12/24
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Charlie McCoubrey a’r Prif Weithredwr, Rhun ap Gareth wedi diolch i staff, contractwyr a sefydliadau partner am eu hymateb i Storm Darragh.
Coed
Roedd timau'r cyngor allan yn ymdrin â dros 100 o goed a oedd wedi cwympo a changhennau mawr/rhwystrol. Bydd yr ymdrechion glanhau yn parhau trwy gydol y dydd heddiw ac am yr wythnos i ddod.
Rydym yn gofyn i bobl gadw draw o warchodfeydd natur a pharciau coetir tra rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch. Mae llawer o goed wedi gwanhau yn y storm ac yn dal i fod yn beryglus. Mae canghennau yn disgyn a choed wedi eu difrodi yn peri risg.
Ffyrdd
Mae’r rhan fwyaf o ffyrdd yn y Sir bellach ar agor.
Ysgolion
Roedd tair ysgol ar gau yn y Sir heddiw gan eu bod heb wres a/neu drydan.
Adeiladau'r Cyngor
Dros y dyddiau nesaf, bydd ein staff hefyd yn archwilio ein heiddo a'n cyfleusterau am unrhyw ddifrod.
Dywedodd y Cynghorydd McCoubrey, “Hoffwn ddiolch i staff y Cyngor, cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, a’n contractwyr a’n partneriaid am eu holl waith caled wrth helpu i gadw pawb yn ddiogel yn ystod Storm Darragh.”
Wedi ei bostio ar 09/12/2024