Diwrnod Dathlu Pobl Drawsryweddol
Transgender day of Visibility
Arddangosfa yn llyfrgell Bae Colwyn
Bob blwyddyn ar 31 Mawrth, mae pobl ar draws y byd yn nodi Diwrnod Dathlu Pobl Drawsryweddol i godi ymwybyddiaeth am bobl drawsryweddol ac anneuaidd. Mae’n ddiwrnod i ddathlu bywydau a chyfraniadau pobl, yn ogystal â thynnu sylw at y lefelau anghymesur o wahaniaethu y mae’r gymuned yn ei wynebu o’i gymharu â phobl gydryweddol (pobl nad ydynt yn drawsryweddol).
Sefydlwyd Diwrnod Dathlu Pobl Trawsryweddol yn 2010 gan yr eiriolwr ar gyfer pobl drawsryweddol, Rachel Crandall, mewn ymateb i’r holl straeon yn y cyfryngau am bobl drawsryweddol yn ymwneud â thrais.
Roedd hi’n gobeithio sefydlu diwrnod i ganolbwyntio ar ddathlu bywydau pobl drawsryweddol, ac annog pawb i fyw eu bywydau mewn modd agored a chydnabod nad yw pob unigolyn traws yn gallu nac yn dymuno bod yn weladwy.
Mae arnom ni oll angen a’n bod yn ddiogel i fyw ein bywydau. Mae pobl draws ac anneuaidd yn rhieni, aelodau teulu, cydweithwyr, cymdogion, partneriaid a ffrindiau i ni.
Mae trawsryweddol, neu draws, yn derm cyffredinol am bobl y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a nodwyd ar eu cyfer pan y cawsant eu geni. Er na ddaeth y gair “trawsryweddol” a’r diffiniad modern ohono i ddefnydd tan ddiwedd yr 20fed ganrif, mae pobl sy’n ffitio’r diffiniad hwn wedi bodoli ym mhob diwylliant drwy gydol ein hanes.
Mae anneuaidd yn hunaniaeth a ddefnyddir gan rai pobl nad ydynt yn ystyried eu hunain fel dyn neu ddynes. Gellir hefyd defnyddio anneuaidd fel term cyffredinol ar gyfer hunaniaethau amrywiol.
Mae llyfrgelloedd Conwy eisiau canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a dathlu bywydau a chyraeddiadau unigolion trawsrywiol heddiw gydag arddangosfa yn llyfrgell Bae Colwyn! Ewch i’ch llyfrgell leol i chwilio am eich llyfr nesaf.
Mae ystod o sefydliadau’n darparu cefnogaeth i bobl draws ac anneuaidd ar draws Cymru a’r DU, gan gynnwys:
Wedi ei bostio ar 31/03/2025