Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Diweddariad ar Storm Darragh – Aflonyddwch a cyngor diogelwch

Diweddariad ar Storm Darragh – Aflonyddwch a cyngor diogelwch


Summary (optional)
start content

Diweddariad ar Storm Darragh – Aflonyddwch a cyngor diogelwch

Mae ymatebwyr aml-asiantaeth Gogledd Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth i amddiffyn cymunedau gan fod #StormDarragh wedi dod â thywydd garw dros nos.

Mae Rhybudd Coch am wyntoedd cryfion a Rhybuddion Melyn am lifogydd yn parhau mewn lle.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Owain Llewellyn: “Diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth o hyd. Mae gwyntoedd eithafol a llifogydd posibl yn parhau i beri risgiau sylweddol heddiw.

“Rydym wedi gweld aflonyddwch difrifol ar draws y rhanbarth. Mae llawer o ffyrdd ar gau felly cofiwch osgoi teithio diangen a dilynwch gyngor swyddogol.”

Gwybodaeth Allweddol:

  • Mae'r gwasanaethau brys, cynghorau lleol, a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu ymatebion ac yn paratoi amddiffynfeydd.
  • Disgwylir amhariad teithio. Edrychwch allan am y wybodaeth ddiweddaraf trwy sianeli dibynadwy.
  • Mae cefnogaeth ar gael i drigolion bregus.
  • Gwnewch yn siwr eich bod hefo’r wybodaeth diweddaraf.

Dilynwch ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol gan:

  • Y Swyddfa Dywydd (tywydd)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (llifogydd)
  • Traffig Cymru (ffyrdd)
  • Awdurdodau lleol (aflonyddwch lleol)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (tanau a llifogydd)

Byddwch #YmwybodolO’rTywydd, ceisiwch osgoi teithio os yn bosibl, a chadwch lygad allan am ddiweddariadau.

Wedi ei bostio ar 07/12/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?