Gylchfan y Weekly News
Dydd Llun 17 Mehefin - Dydd Gwener 21 Mehefin
Bydd rhywfaint o newidiadau ar gylchfan y Weekly News yng Nghyffordd Llandudno yr wythnos nesaf, tra rydym yn cynnal gwaith ymchwilio.
Bydd y lôn fewnol ar gau yn ogystal â’r rhan o’r ffordd sy’n cysylltu’r drosffordd â’r gylchfan.
Dargyfeiriadau a fydd mewn lle ar gyfer cerbydau:
O’r A55 / Tesco i Ddeganwy neu Gyffordd Llandudno - dargyfeiriad ar hyd pont Conwy, troi wrth gylchfan fach Castell Conwy, dychwelyd at gylchfan y Weekly News.
O Gyffordd Llandudno i Ddeganwy - dargyfeiriad ar hyd Victoria Drive - Marl Lane - Pentywyn Road neu ar hyd pont Conwy, troi wrth gylchfan fach Castell Conwy.
Dylech ganiatáu mwy o amser ar gyfer eich taith.
Junction roundabout resized
Conwy Bridge diversion resized
Wedi ei bostio ar 12/06/2024