Chi yw Diwylliant Conwy
Gwahoddir sefydliadau diwylliannol a chymunedol sy’n awyddus i gael hwb gan bŵer pobl i fod yn Gefnogwyr Gwirfoddolwyr Amdani! Conwy.
Wedi’i lansio yn 2023, mae Amdani! Conwy yn fenter sy’n agor y drysau i wirfoddoli yng Nghonwy.
Wedi’i hariannu gan Spirit of 2012, mae’r fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a Chelfyddydau Anabledd Cymru’n recriwtio amrywiaeth o wirfoddolwyr a’u cysylltu nhw â chyfleoedd yng Nghonwy.
Yn dilyn llwyddiant yn 2023, lle cafodd 50 o wirfoddolwyr eu recriwtio i helpu 30 o leoliadau a digwyddiadau, mae’r prosiect yn paratoi rŵan i recriwtio’r don nesaf o wirfoddolwyr yng ngwanwyn 2024.
Mae Bayside Radio, gorsaf radio gymunedol ym Mae Colwyn, yn un o “Gefnogwyr Gwirfoddolwyr” gwerthfawr Amdani! ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf maen nhw wedi darparu lleoliadau gwaith i wirfoddolwyr.
Meddai Simon Wynne, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Bayside Radio: “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio efo Amdani! Conwy yma yn Bayside Radio.
“Mae Jasmine a David yn Amdani! wedi bod yn gweithio’n agos gyda thîm Bayside i baru ein hanghenion gyda sgiliau a dyheadau gwirfoddolwyr posibl.
“Mae ymdrech y ddau y tu ôl i’r llenni wedi gwneud y broses yn un syml, ac mae hyn wedi bod o fudd mawr i dîm bach fel ni. Rydym ni’n edrych ymlaen at helpu’r gwirfoddolwyr i ennill sgiliau unigryw a chael hwyl wrth wneud hynny, a ninnau wedyn yn elwa ar adnoddau ychwanegol a gwerthfawr ar adeg y mae arnom ni ei angen fwyaf.”
Mae Amdani! Conwy bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd a chyffrous i wirfoddolwyr allu helpu a chymryd rhan ynddynt. Felly, os ydych chi’n sefydliad diwylliannol neu gymunedol sy’n chwilio am bobl i helpu, yna beth am ddod yn Gefnogwr Gwirfoddolwyr Amdani! Conwy?
Ceir rhagor o wybodaeth yn:
E-bost: Amdani@cvsc.org.uk
Gwefan: www.diwylliantconwy.com
Wedi ei bostio ar 17/01/2024