Sut i wneud cais
Mae’n rhaid i ymgeisydd fod â Thrwydded Yrru lawn ers o leiaf 12 mis a rhaid bod ganddynt drwydded o’r fath pan fyddant yn cyflwyno eu cais. Yn ogystal, cyn y gall y Cyngor roi Trwydded, mae'n rhaid iddynt fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol.
Mae’n rhaid cyflwyno ffurflen gais ar-lein, dogfen ddigidol gefnogol a’r ffi er mwyn derbyn y cais. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fynychu’r sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y prawf gwybodaeth cyn y gellir rhoi Trwydded.
Cyn gwneud cais, sicrhewch eich bod yn darllen yr wybodaeth isod a fydd yn cael ei hystyried gan yr Awdurdod Trwyddedu wrth benderfynu ar gais:
Er mwyn cwblhau’r ffurflen gais ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gennych y dogfennau digidol canlynol.
- Trwydded Yrru Lawn y DVLA â cherdyn llun (sy’n bodoli ers o leiaf 12 mis) yn rhoi manylion eich cyfeiriad post llawn cyfredol.
- Cod Gwiriad DVLA - https://www.gov.uk/view-driving-licence
- Darparu Tystysgrif GDG Manylach (gweler isod)
- Darparu ffurflen adroddiad meddygol a gwblhawyd gan nodi eich addasrwydd i yrru cerbyd trwyddedig. Rhaid i'r adroddiad gael stamp Meddyg wedi’i ardystio arno
Tystysgrif Feddygol (Microsoft Word, 45KB)
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac Euogfarnau Troseddol
Mae’n rhaid i chi gael enw da. I sefydlu hyn byddwch angen gwiriad cofnodion troseddol ‘manylach’ gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar euogfarnau troseddol (PDF)
Mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wasanaeth tanysgrifio ar-lein sy’n caniatáu i ymgeiswyr ddiweddaru eu tystysgrifau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cofrestru ar gyfer gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru naill ai pan fyddwch yn ymgeisio am eich gwiriad GDG neu drwy ddefnyddio eich rhif tystysgrif GDG gwreiddiol pan fydd wedi’i gyhoeddi) mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y cafodd eich tystysgrif GDG ei gyhoeddi).
Os byddwch angen Tystysgrif Fanylach, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio cwmni cofrestredig o’r enw Checks Direct, mae’r rhain yn asiantaeth ymbarél i GDG, a fydd yn ymdrin â’ch cais ar ein rhan. Gallwch wneud y taliadau’n uniongyrchol drwy Checks Direct Checks Direct | DBS Checks, Vetting & Screening Services.
Byddwch angen darparu tair dogfen i wirio eich hunaniaeth (e.e. Pasbort, Trwydded Yrru a Bil Gwasanaeth) *Canllawiau gwirio hunaniaeth ar gyfer ceisiadau gwirio GDG safonol/manylach - GOV.UK (www.gov.uk)
Bydd angen diweddaru tystysgrifau DBS bob 3 blynedd
Yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
Mae’n ddyletswydd ar yr Awdurdod Trwyddedu i sicrhau bod gennych chi hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gall methu â darparu’r wybodaeth a ofynnir amdani yn Atodiad A olygu y gall eich cais gael ei wrthod.
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddiogelu a Phrawf Gwybodaeth ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni
I archebu lle i wneud y prawf a thalu’r ffi ofynnol, defnyddiwch y ddolen isod.
Dyddiadau 2024
Dyddiadau 2025
Ffïoedd
Mae gan y Cyngor yr hawl i ganiatáu neu wrthod y drwydded. Efallai y bydd rhai ceisiadau yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio Cyffredinol y Cyngor er mwyn gwneud penderfyniad.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o benderfyniad eu cais yn ysgrifenedig, o fewn 14 diwrnod o wneud y penderfyniad.
Deddfwriaeth ac Amodau
Prosesu ac Amserlenni
Unwaith y bydd yr holl waith papur wedi’i dderbyn gan yr ymgeisydd ac asiantaethau allanol ac ar ôl mynychu’r sesiwn ymwybyddiaeth Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant a llwyddo yn y Prawf Gwybodaeth Cerbyd Hacni, gall y drwydded gymryd hyd at 28 diwrnod i’w chynhyrchu.
Dulliau Apelio / Unioni:
Byddai'r ymgeisydd yn gallu apelio unrhyw benderfyniad trwy gyfrwng cwyn i'r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am benderfyniad y Cyngor.
Cysylltu â ni