Rydym eisiau i’n heconomi fod yn un hyderus, wydn a chynaliadwy. Mae hyn yn golygu cynnig addysg ragorol, cyfleoedd dysgu gydol oes a’r sgiliau cywir ar gyfer gwaith. Byddwn yn annog syniadau newydd ac yn adfywio ar sail diwylliant. Byddwn yn mynd ati i weithio gyda busnesau, ysgolion, cymunedau, Cynghorau Tref a Chymuned a’r sector creadigol i hyrwyddo amodau y gallant dyfu a ffynnu ynddynt.
Sut ddyfodol hoffem ni ei weld: Bydd ein treftadaeth gyfoethog wedi’i diogelu er mwyn cefnogi lles cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn wedi llwyddo i gadw talentau sy’n cefnogi twf ac yn rhoi Conwy wrth wraidd Economi Gogledd Cymru. Bydd ein plant yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus. Byddant yn unigolion iach a hyderus sy’n chwarae rhan weithgar yn y gymuned, gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y cyfleoedd swyddi sydd ar gael.
I gefnogi’r nod hon, rhwng 2025 a 2027, byddwn yn gwneud y canlynol:
content
Cyflawni system addysg gwbl gynhwysol lle caiff pob dysgwr gyfle i lwyddo. Byddant yn gallu cael mynediad at addysg sy’n bodloni eu hanghenion ac sy’n eu galluogi i gymryd rhan mewn dysgu, elwa ohono a’i fwynhau.
content
Cyflawni ein Strategaeth Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i gymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, gan gyfrannu hefyd at atal digartrefedd a thlodi.
content
Sicrhau bod gan bobl ifanc ymwybyddiaeth dda o gyfleoedd cyflogaeth a’r sgiliau priodol i gael mynediad at y byd gwaith.
content
Cyflawni Strategaeth Twf Economaidd Conwy, gan gynnig cyngor a chymorth i fusnesau lleol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, sy’n helpu rhoi hwb i’r economi leol a lleihau diweithdra ac anghyfartaledd cymdeithasol. Byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru i sicrhau bod Bargen Dwf Gogledd Cymru yn cynnig cyfleoedd i Gonwy. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru i feithrin twf sgiliau yn ôl yr angen.
content
Cyflawni Strategaeth Ddiwylliant Creu Conwy.
content
Cyflawni ar gamau gweithredu i gefnogi twristiaeth, digwyddiadau a gweithgareddau yng Nghonwy, gan gynnwys ein Cynllun Rheoli Cyrchfan, gan gefnogi twristiaeth barchus sy’n gwarchod ein lleoliadau mwyaf poblogaidd ac yn hyrwyddo pob rhan o’n sir hardd.
content
Cefnogi ffyniant drwy’r polisïau a’r arferion y byddwn yn eu mabwysiadu dan ein Cynlluniau Datblygu Lleol.
content
Gweithio gyda chymunedau lleol i helpu cyflawni Cynlluniau Adfywio a Chreu Lleoedd.
content
Gweithio i fanteisio i’r eithaf ar y grantiau a’r cyfleoedd cyllido sydd ar gael i Gonwy a’i ddinasyddion, gan gefnogi busnesau, adfywio, y celfyddydau, treftadaeth, Sero Net a chymunedau.
content
Cyflwyno ein Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg (CSCA), gan gefnogi targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
content
Gwella ansawdd lleoliadau addysg drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Bydd ein gwaith ar gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol i ddilyn y Nodau Lles Cenedlaethol canlynol:
- Cymru lewyrchus
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu 6
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Nesaf: Nod hirdymor 4
Blaenorol: Nod hirdymor 2