Beth maent yn ei wneud:
Lles Cymunedol - Darparu ymyrraeth fuan a gwasanaethau ataliol i gadw pobl yn iach, yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Cefnogi pobl i gael gafael ar y gwasanaethau cywir ar gyfer eu hanghenion ar y pryd.
Safonau Ansawdd a Chomisiynau - Cynnal gweithlu gyda sgiliau ac wedi eu hyfforddi o fewn gwasanaeth sy'n cydymffurfio â safonau cyfreithiol a Gofal Cymdeithasol. Sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu comisiynu yn darparu ansawdd a gwerth am arian. Gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr.
Busnes, Perfformiad a Chyllid - Darparu cymorth gweinyddol i’r holl feysydd gwasanaeth ac uwch reolwyr Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Casglu, rheoli ac adrodd ar ddata’r adran. Rheoli a chefnogi systemau a chofnodion busnes, trafodion ariannol yr adran a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch ac adeiladau.
Anabledd - Darparu cefnogaeth i unrhyw blentyn neu oedolyn ag anabledd, lle mae'r anabledd yn cael effaith sylweddol a thymor hir ar allu i ymgymryd â gweithgareddau bob dydd. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth i rieni a gofalwyr.
Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbyty - Darparu cefnogaeth yn y gymuned i bobl dros 65 oed sydd o bosibl yn ei chael hi'n anodd byw yn ddiogel ac yn annibynnol, ac wedi derbyn asesiad yn dangos eu bod angen cefnogaeth.