Eiddo eithriedig
Mae yna eiddo lle nad oes raid i chi dalu Treth y Cyngor. Maent yn cynnwys eiddo sydd:
- Heb ei ddodrefnu (eithriedig am hyd at 6 mis)
- Yn wag ac yn eiddo i elusen (eithriedig am hyd at 6 mis)
- Yn wag ac yn cael ei atgyweirio neu angen gwaith strwythurol neu addasiadau mawr (eithriedig am hyd at 12 mis)
- Wedi'i adael yn wag gan rywun sydd yn y carchar, ysbyty neu gartref gofal preswyl
- Yn wag ac yn aros am brofeb neu lythyrau gweinyddu (a hyd at 6 mis wedyn)
- Wedi'i adael yn wag gan rywun sydd wedi symud er mwyn darparu gofal personol i rywun arall neu gael gofal personol
- Wedi'i adael yn wag gan fyfyrwyr.
- Wedi'i ailfeddiannu
- Yn gyfrifoldeb ymddiriedolwr methdalwr
- Yn wag gan fod eu galwedigaeth wedi'i gwahardd gan y gyfraith.
- Yn aros i weinidog crefyddol symud i mewn.
- Pobl sy’n Gadael Gofal - Os ydych yn gadael gofal, efallai y byddwch wedi’ch eithrio rhag talu’r dreth gyngor os: ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 18 oed neu’n hŷn ond heb gyrraedd 25 oed eto
Cysylltwch â ni
Blwch Post 1
Bae Colwyn
LL29 0GG
E-bost: trethycyngor@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576607
Dogfennau