Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Defnyddio Bathodynnau Glas mewn meysydd parcio talu ac arddangos


Summary (optional)
start content

Caiff deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim yn y mannau parcio anabl dynodedig ym meysydd parcio talu ac arddangos Conwy

Mae’n rhaid i chi arddangos eich Bathodyn Glas, ac os oes cyfyngiad amser, mae’n rhaid i chi hefyd arddangos eich cloc gyda’r amser y cyrhaeddoch arno. Edrychwch ar fwrdd gwybodaeth y maes parcio i weld manylion y cyfyngiad amser.

Bydd angen i ddeiliaid Bathodyn Glas sy’n parcio mewn man parcio cyffredinol brynu tocyn a'i arddangos.

Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim mewn unrhyw fae parcio mewn ardaloedd talu ac arddangos ar y stryd. Mae rhai baeau parcio dynodedig i’r anabl ar The Parade yn Llandudno ac ar Bromenâd Bae Colwyn.


Gwybodaeth bellach:

end content