Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd - Gorchymyn


Summary (optional)

Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yw:

  • Gwella lefel y mannau parcio sydd ar gael a rheoli’r galw am fannau parcio
start content

GORCHYMYN BWRDEISTREF SIROL CONWY
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd)
Gorchymyn 1997 (Diwygiad) (Rhif 1) Gorchymyn 2025


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Cyngor”) wrth ddefnyddio’i bwerau dan Adrannau 32 a 35 a Rhan IV o Atodlen 9 o’r Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf 1984”) a phob pŵer arall sy’n galluogi ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:-

1. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar xxxx dwy fil a phump ar hugain a gellir ei ddyfynnu fel “Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Lleoedd parcio oddi ar y stryd) 1997 (Diwygiedig) Gorchymyn 2025”.

2. Yn y Gorchymyn hwn: -

(a) Mae Atodlen 2 o’r Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Lleoedd Parcio oddi ar y stryd) 1997 yn cael ei ddiwygio drwy hyn, y bydd ei effaith yn ychwanegu prisiau newydd, prisiau tymhorol, ardaloedd parcio am ddim gyda chyfyngiad aros ac ychwanegu at y dosbarth cerbydau a ganiateir mewn meysydd parcio fel y dangosir yn yr Atodlen isod.

3. Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu dan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho.

Y geiriau a’r ffigurau canlynol i’w hychwanegu at Atodlen 2.

Atodlen
Enw'r Man Parcio / Maes ParcioY safle y mae’n rhaid i gerbyd arosMath o GerbydDiwrnodau gweithredu Codi Tâl yr AwrGraddfa PrisiauCyfnod aros hiraf 
Promenade Llanfairfechan Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio (lle mae baeau yn cael eu marcio) neu fel y cyfarwyddir gan Swyddog Gorfodi Sifil. Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir gan erthygl 3)

Dim faniau gwersylla 11pm i 8am
Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol) 1 awr - £1.00
2 awr - £1.70
4 awr - £3.30
Dros 4 awr - £5.00

Dros nos (6pm-8am) - £2.00
24 awr - £6.50

24 awr.

Dim dychwelyd o fewn 1 awr
Plas yn Dre
Llanrwst
Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio (lle mae baeau yn cael eu marcio) neu fel y cyfarwyddir gan Swyddog Gorfodi Sifil. Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir gan erthygl 3)

Dim faniau gwersylla 11pm i 8am

 

Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol) 1 awr - £1.00
2 awr - £1.70
4 hrs - £3.30
Dros 4 awr - £5.00

Dros nos (6pm-8am) - £2.00
24 awr - £6.50
24 awr.

Dim dychwelyd o fewn 1 awr
Osbourne Rd
Cyffordd Llandudno
Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio (lle mae baeau yn cael eu marcio) neu fel y cyfarwyddir gan Swyddog Gorfodi Sifil. Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir gan erthygl 3)

Dim faniau gwersylla 11pm i 8am

 

Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol) 1 awr - £1.00
2 awr - £1.70
4 awr - £3.30
Dros 4 awr - £5.00

Dros nos (6pm-8am) - £2.00
24 awr - £6.50

24 awr.

Dim dychwelyd o fewn 1 awr

Promenâd y Gorllewin (a elwir yn lleol hefyd fel Promenâd Cayley Isaf)

Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio (lle mae baeau yn cael eu marcio) neu fel y cyfarwyddir gan Swyddog Gorfodi Sifil. Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir gan erthygl 3)


Dim faniau gwersylla 11pm i 8am


 

Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol)


10am to 4pm

Prisiau o 1 Mai – 30 Medi bob blwyddyn

Hyd at 4 awr - £5.50
Dros 4 awr - £7.50

Prisiau o 1 Hydref – 30 Ebrill bob blwyddyn

Hyd at 2 awr - £2.40
Hyd at 4 awr - £3.80
Dros 4 awr - £5.40
24 awr.

Dim dychwelyd o fewn 1 awr

Maes Parcio
Porth Eirias

Yn gyfan gwbl o fewn bae parcio (lle mae baeau yn cael eu marcio) neu fel y cyfarwyddir gan Swyddog Gorfodi Sifil. Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir gan erthygl 3)


Dim faniau gwersylla 11pm i 8am

Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol)


10am to 4pm

Prisiau o 1 Mai – 30 Medi bob blwyddyn

Hyd at 2 awr - £2.40
Hyd at 4 awr - £5.50
Dros 4 awr  -£7.50
Dros nos (5pm – 8am) - £4.00

Prisiau o 1 Hydref – 30 Ebrill bob blwyddyn

Hyd at 2 awr - £2.40
Hyd at 4 awr - £3.80
Dros 4 awr - £5.40
Dros nos (5pm–8am) - £4.00
24 awr.

Dim dychwelyd o fewn 1 awr

Fernbrook Road Penmaenmawr

Yn gyfan gwbl mewn bae barcio o fewn y baeau â’r arwydd ‘Cyfyngiad Aros’ (lle mae baeau yn cael eu marcio) neu fel y cyfarwyddir gan Swyddog Gorfodi Sifil Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir gan erthygl 3)


Dim faniau gwersylla 11pm i 8am

Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol)

8am i 6pm

 

 

 

Dim tâl 3 awr.

Dim dychwelyd o fewn 3.5 awr

Osbourne Road
Cyffordd Llandudno

Yn gyfan gwbl mewn bae barcio o fewn y baeau â’r arwydd ‘Cyfyngiad Aros’ (lle mae baeau yn cael eu marcio) neu fel y cyfarwyddir gan Swyddog Gorfodi Sifil Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir gan erthygl 3)


Dim faniau gwersylla 11pm i 8am

Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol)

8am i 6pm

Dim tâl 1 awr.

Dim dychwelyd o fewn 90 munud
Plas yn Dre Llanrwst Yn gyfan gwbl mewn bae barcio o fewn y baeau â’r arwydd ‘Cyfyngiad Aros’ (lle mae baeau yn cael eu marcio) neu fel y cyfarwyddir gan Swyddog Gorfodi Sifil Ceir a faniau ysgafn (fel y diffinnir gan erthygl 3)


Dim faniau gwersylla 11pm i 8am

Dydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol)

8am i 6pm
Dim tâl 45 munud.

Dim dychwelyd o fewn 60 munud


RHODDWYD dan y Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y dydd hwn o Ddwy fil a phump ar hugain.

Gosodwyd SÊL GYFFREDIN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY yma yng ngŵydd:-

Swyddog Selio Awdurdodedig.


Tudalen Nesaf: Mapiau

end content